Paul Gauguin

Oddi ar Wicipedia
Paul Gauguin
GanwydEugène Henri Paul Gauguin Edit this on Wikidata
7 Mehefin 1848 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1903 Edit this on Wikidata
o Syffilis Edit this on Wikidata
Atuona, Fatu-Hiva Edit this on Wikidata
Man preswylFrederiksberg, Nørregade, Paris, Tahiti Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • lycée Pothier Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, arlunydd graffig, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, seramegydd, darlunydd, artist Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Yellow Christ, Manaò tupapaú, The Night Café in Arles, When Will You Marry?, Ia Orana Maria, Where Do We Come From? What Are We? Where Are We Going?, Tahitian Women on the Beach, Two Tahitian Women Edit this on Wikidata
Arddullportread, celf tirlun, figure, celf genre, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadHokusai, Eugène Delacroix, Paul Cézanne, Claude Monet, Camille Pissarro, Edgar Degas Edit this on Wikidata
MudiadÔl-argraffiaeth, Pont-Aven School, Symbolaeth (celf), synthetism, Cloisonnisme, Argraffiadaeth, cyntefigedd Edit this on Wikidata
TadClovis Gauguin Edit this on Wikidata
MamAline Chazal Edit this on Wikidata
PriodMette Sophie Gad Edit this on Wikidata
PartnerTeha'amana, Pau'ura a Tai, Vaeoho Marie-Rose, Juliette Huais Edit this on Wikidata
PlantClovis Gauguin, Jean René Gauguin, Pola Gauguin, Émile Gauguin, Emile Gauguin, Germaine Chardon Edit this on Wikidata
PerthnasauFlora Tristan Edit this on Wikidata
llofnod

Arlunydd ôl-argraffiadol Ffrengig oedd Eugène Henri Paul Gauguin (7 Mehefin 1848 – 8 Mai 1903). Heb fod yn adnabyddus yn ystod ei fywyd, fe'i gydnabuwyd yn ddiweddarach am ei ddefnydd mentrus o liw ac am herio syniadaeth celf Ewropeaidd gyfoes tra'n gweithio yn y Caribî ac Ynys Tahiti.[1]

Bu'n ddylanwad mawr ar y genhedlaeth ganlynol o arlunwyr fel Henri Matisse, Pablo Picasso a Georges Braque a mudiadau fel Fauve ac Mynegiadaeth Almaeneg (German Expressionism).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd i deulu rhyddfrydol a bu rhaid iddynt ddianc i Periw ym 1851 wedi Coup d'etat Napoleón III pan roedd Paul ond yn 18 mis oed. Pan ddychwelon i Ffrainc fe'i astudiodd yn yr ysgol yn Orleans rhwng 1859 a 1865 cyn fynd yn forwr yn 17 oed.

Ym 1870 aeth i weithio yn y gyfnewidfa stoc ym Mharis ble fu'n dra llwyddiannus. Priododd â merch o Ddenmarc, Mette-Sophie Gad, a chafodd y cwpl bump o blant gan fyw bywyd bourgeois, cyffyrddus.[1]

Dechreuodd Gauguin ymddiddori yn y byd celf, yn arbennig gwaith Argraffiadaeth (Ffrangeg: Impressionnisme) a oedd yn arddull newydd cyffrous ym Mharis y cyfnod. Dechreuodd Gauguin wersi peintio gan arddangos gyda'r impressionnistes ac fe ddaeth i adnabod yr arlunwyr Manet, Cézanne, Monet a Camille Pissarro.[1]

Yn 1882, fe'i gadawodd ei swydd i fod yn arlunydd llawn amser gan achosi problemau ariannol difrifol i'w deulu. Bu rhaid iddynt symud i fwy yng Copenhagen at deulu ei wraig cyn i Gauguin adael ei wraig a phlant yn llwyr i ddychwelyd i Ffrainc i beintio.

Peintiwr[golygu | golygu cod]

Bu ei brofiad o fyw fel plentyn yn ne America a'i deithiau fel morwr yn ddylanwad mawr arno ac ym 1887 fe aeth i fyw ym Panama gan symud ymlaen i Ynys Martinique yn y Caribî.

Datblygodd Gauguin ymhellach ei arbrofion gyda lliwiau gan geisio adlewyrchu lliwiau llachar natur drofannol a chyfleu symbolaeth bywyd “cyntefig” y brodorion.

Roedd syniadau rhamantaidd o ddianc rhag “gwareiddiad” dinasoedd budron i fywyd mwy naturiol ymhlith pobloedd a ystyriwyd yn “gyntefig” yn ennyn poblogrwydd ymhlith llawer o ysgrifenwyr ac arlunwyr Ewropeaidd y cyfnod. Roedd diddordeb mawr yng nghelf pobloedd “egsotig” frodorol Affrica ac Asia gyda masgiau, cherfluniau a phrintiau'n cael eu cludo yn ôl i Ewrop wedi i'r Ewropeaid gipio a choloneiddio eu tiroedd. Yn ddiweddarach adnabyddir Gauguin un o brif artistiaid y symudiad celfyddydol Primitivisme y cyfnod.

Pan ddychwelodd i Ewrop bu'n byw gyda grŵp o arlunwyr arbrofol ym Mhont Aven, Llydaw rhwng 1886 a 1891. Ym 1888 peintiodd gyda Vincent van Gogh ond arweiniodd eu cyfeillgarwch i ddadl gyda chyllell rhwng y ddau.[2]

Ym 1891 hwyliodd Gaugain i Ynys Tahiti ac wedyn ynysoedd eraill Polynesia i ddianc “popeth sydd yn ffug ac yn gonfensiynol”[3]. Yno fe greodd rhai o'i luniau a cherfluniau mwyaf adnabyddus.[1]

Yn dilyn rhai blynyddoedd hapus ym Mholynesia cafodd amseroedd anodd - yn sâl gyda syffilis a heb arian. Cafodd broblemau gydag awdurdodau coloneiddiol Ffrangeg am ddadlau o blaid y bobl frodorol yr ynysoedd. Bu farw yn 1903.[4]

Mae awydd Gauguin i ddarganfod delfryd amhosib ymhlith natur a bywyd pobl werin frodorol “syml ac egsotig” wedi'i feirniadu yn ddiweddarach fel esiamplau o agwedd hiliol a rhagfarnllyd pobl Ewropeaidd y cyfnod, yn arbennig y modd ecsbloetiodd Gauguin ferched ifanc Iawn am ei chwant rhywiol.[5][6]

Gwaith Gauguin[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 http://www.biography.com/people/paul-gauguin-9307741
  2. http://www.metmuseum.org/toah/hd/gaug/hd_gaug.htm
  3. "The painter who invented his own brand of artistic license," Arifa Akbar, The Independent, 20 April 2010.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-08. Cyrchwyd 2014-09-25.
  5. According to postmodern critics, it was primarily the cultures of Africa and the Oceanic islands that provided artists an answer to what these critics call their "white, Western, and preponderantly male quest" for the "elusive ideal" of the primitive, "whose very condition of desirability resides in some form of distance and difference." See Solomon-Godeau 1986, p. 314.
  6. Diamond, S: In Search of the Primitive, (New Brunswick: Transaction Publishers, 1974)