Cloisonnisme
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf ![]() |
Math | Ôl-argraffiaeth ![]() |
Arddull peintio ôl-argraffiadol oedd Cloisonnisme (weithiau Cloisonnisiaeth[1] yn Gymraeg). Yn nodweddiadol roedd yn defnyddio patrwm dau-ddimensiwn, yn cynnwys clytiau mawr o liw llachar wedi'u hamgylchynu o fewn amlinelliadau du, trwchus yn y modd o waith enamel cloisonné yr Oesoedd Canol neu wydr lliw.
Dechreuodd artistiaid fel Émile Bernard, Louis Anquetin, Paul Gauguin a Paul Sérusier beintio yn yr arddull hon yn y 1880au. Defnyddiwyd y gair "Cloisonnisme" am y tro cyntaf ym 1888 gan y beirniad celf Edouard Dujardin ar achlysur yr arddangosfa Salon des Indépendants.
Oriel[golygu | golygu cod]
- Gweithiau yn arddull Cloisonnisme
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ White, Mark; Jones, Dafydd (2011), Y Geiriadur Celf, Dalen, p. 8, ISBN 978-1-906587-10-9
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Visual-Arts-Cork: Cloisonnism