Via Aurelia

Oddi ar Wicipedia
Via Aurelia
Mathffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata
Statws treftadaethmonument historique classé Edit this on Wikidata
Manylion

Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain a Pisae ar hyd arfordir gorllewinol yr Eidal yw'r Via Aurelia.

Adeiladwyd y ffordd gyntaf gan Aurelius Cotta yn ail hanner y 3 CC. Roedd yn arwain tua'r gogledd ar hyd yr arfordir i Pisae (Pisa heddiw), ac oddi yno roedd y via Aemilia Scaura yn ei chysylltu a'r via Aemilia.

Yn ddiweddarach, ymestynnodd yr ymerawdwr Augustus y ffordd hyd Arelate (Arles) yn nhalaith Gallia Narbonensis, dan yr enw via Julia Augusta. Roedd hyd y via Aurelia, via Aemilia Scaura a'r via Julia Augusta gyda'i gilydd yn 962 km. Heddiw, mae priffordd y Strada Statale 1 yn dilyn y ffordd yma i raddau helaeth.

Y via Aurelia (mewn melyn)