Ségou
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 133,501 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | UTC+00:00 |
| Gefeilldref/i | Angoulême |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 37 km² |
| Uwch y môr | 274 metr |
| Cyfesurynnau | 13.45°N 6.27°W, 13.4317°N 6.2157°W |
![]() | |
Dinas yn ne canolbarth Mali, gorllewin Affrica, sy'n gorwedd 235 km (146 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Bamako ar afon Niger, tua hanner ffordd rhwng y ddinas honno a Mopti yw Ségou (hefyd Seku, Segu weithiau). Mae'n ganolfan weinyddol y rhanbarth o'r un enw. Sefydlwyd Ségou gan y bobl Bozo yn 1620, ar safle sy'n gorwedd tua 10 km (6.2 milltir) y tu allan i'r ddinas bresennol. Gyda phoblogaeth o tua 100,000, Ségou yw dinas drydedd fwyaf Mali.
Yn y gorffennol roedd Ségou yn brifddinas Ymerodraeth Bambara ac felly mae ganddi ran bwysig yn hanes Mali. Cyfeirir ati weithiau fel dinas y “Balanzan”, ar ôl y goeden acesia leol, acacia albida. Trwy gydol ei hanes mae Ségou wedi mwynhau perthynas masnachol agos â dinasoedd Djenné a Tombouctou (Timbuktu), ac mae'n aros yn ganolfan masnachu grawnfwyd a gwartheg er bod gwaith crochenwaith a physgota yn bwysig hefyd.

Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- Segou Tourisme (fr)Archifwyd 2012-09-03 yn y Peiriant Wayback
