Tombouctou

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Timbuktu)
Jump to navigation Jump to search
Mosg Djingareiber yn Tombouctou

Mae Tombouctou (neu Timbuktu) yn ddinas hynafol yn nwyrain canolbarth Mali sy'n brifddinas y rhanbarth o'r un enw.

Mae'n gorwedd ar lannau Afon Niger.

Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Tombouctou yn ganolfan bwysig ar y llwybrau masnach traws-Saharaidd. Roedd yn enwog yn y byd Islamaidd a thu hwnt am ei phrifysgol a'i llyfrgelloedd niferus a denai ysgolheigion o bob cwr o'r byd Islamaidd a'r tu hwnt. Mae pensaernïaeth hynod yr hen ddinas â'i hadeiladau pridd caled a phren yn nodweddiadol o'r rhanbarth. Mae'r hen ddinas ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Mali.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fali. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.