Thomas Mostyn a'r Barbari

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Codwyd pedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru gan Syr Thomas Mostyn rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o Ogledd Affrica yn yr 16g a’r 17g. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.

Golygfa gyffredinol o Dŵr Bryniau gyda’r Fardre ble bu Llys Maelgwn Gwynedd yn y cefndir

Pryder Teulu Mostyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Doedd hi ddim yn amser hapus i deulu Mostyn, Neuadd Gloddaeth, Llandudno, yn ystod yr 16g a’r 17g, er gwaetha’r ffaith mai nhw oedd tirfeddianwyr pwysicaf a chyfoethocaf yr arfordir sy'n ymestyn o Landudno tua dwyrain Sir y Fflint. Roedd Syr Thomas Mostyn dan y lach gan y Protestaniaid am fethu a dal y Catholigion oedd wedi bod yn argraffu Y Drych Cristionogawl yn anghyfreithlon yn Ogof Rhiwledyn.

Ond eu poen pennaf (fel y genhedlaeth o'u blaenau, ac wedyn) oedd Môr-ladron Barbari o Ogledd Affrica a oedd yn rheibio ardal Môr y Canoldir yn bennaf, ond cynyddodd yr ofnau pan ymosodwyd ar Baltimore, Swydd Corc, yn yr Iwerddon yn 1631. Chwalwyd y lle a dygwyd dros 100 o ddynion a merched ifanc yn gaethweision. Yn aml iawn byddent yn gyrru'r hen bobl a'r rhai methedig i eglwys y plwyf ac yn llosgi'r adeilad a lladd y trigolion.

Roedd gan Syr Thomas Mostyn lawer o ddyletswyddau, gan gynnwys bod yn Uchel Siryf Sir Fflint, Sir Gaernarfon a Sir Fôn. Rhaid oedd meddwl am ffyrdd, a hynny ar frys i atal y môr-ladron dieflig hyn pe baent yn ymosod ar Ogledd Cymru a'r rhai a ofnid fwyaf oedd y Môr-ladron Barabari. Roedd rhain yn gwneud i rai fel Barti Ddu a Harri Morgan edrych fel angylion, meddan nhw!

Un o'r môr-ladron dieflig a baentiwyd gan Pier Francesco Mola tua 1650
Llongau y Barbari yn ymosod

Codi tyrau[golygu | golygu cod y dudalen]

1. Tŵr Bryniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeirnod Map SH78558030

Tŵr Bryniau - ar lafar 'Cadair Freichiau Nain'.

Penderfynodd Thomas Mostyn godi Tŵr Bryniau, sy’n grwn ac yn 4.7 metr o ddiamedr gyda waliau 1.2 medr o drwch ac yn 4.8 metr o uchder gyda cherrig i’w ddefnyddio fel tŵr gwylio tu ôl i ble mae Ysbyty Llandudno heddiw. Oddi yno gellid gweld llawer o’r arfordir a’r wlad o gwmpas.

Ceir enw hyfrydr-ladron dieflig arno yn y Gymraeg, sef 'Cadair Freichiau Nain'!

2. Eglwys Rhos[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŵr ychwanegol Eglwys Rhos. Ei enw ar lafar yw 'Cadair y Rheithor

Cyfeirnod Map: SH8321780647 Doedd hynny ddim yn ddigon i Syr Thomas Mostyn! Yna, yn Eglwys Rhos, yn Llandrillo yn rhos, cododd dŵr uwchben y tŵr gwreiddiol a gelwid hwnnw yn ‘Gadair y Rheithor’. Roedd yr eglwys wedi ei hail-adeiladu yn 1552, a chodwyd y Tŵr Gwylio yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, a gwyngalchwyd muriau’r eglwys i helpu llongwyr oedd yn hwylio heibio. Roedd yn bosib gweld o un i’r llall ac anfon neges drwy dân i rybuddio, os oedd angen.

3. Tŵr Abergele[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŵr Abergele -Bryn Tŵr

Cyfeirnod Map SH95247598 Doedd dim diwedd ar ofnau Teulu Mostyn! Ar Gallt y Felin Wynt, gallt uwchben y dref a elwid yn 'Bryn Tŵr' yn y Gymraeg a Tower Hill yn Saesneg, codwyd tŵr gwylio arall yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, ac fe’i hadnewyddwyd yn rhannol yn ystod 1930.

4. Tŵr Chwitffordd[golygu | golygu cod y dudalen]

Tŵr Allt y Garreg, Chwitffordd

Cyfeirnod Map: SJ13367826 Na, doedd dim diwedd ar ofnau Teulu Mostyn! Mae tŵr crwn ar Allt y Garreg yn Chwitffordd yn edrych dros aber Afon Dyfrdwy. Dywed rhai ei fod yn wreiddiol yn Oleudy Rhufeinig, ond does dim i brofi hynny. Yn fwyaf tebygol fe’i codwyd yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ac fe’i henwir fel melin yn map Stad Mostyn yn 1732, ond hefyd sonnir amdano fel ‘tŵr gwylio’ am fôr-ladron. Cafodd ei adnewyddu yn 1897 i gofio am Ddathliadau Diemwnt y Frenhines Fictoria.

Felly, roedd gan Deulu Mostyn bedwar tŵr i gadw golwg ar fôr-ladron Barbari ac roedd yn bosib anfon neges o'r naill i'r llall (drwy gynnau coelcerth, rhan amlaf) pan oedd angen. Er hynny, does yna ddim tystiolaeth bod ‘Môr-ladron Barbari’ wedi ymosod ar Ogledd Cymru.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]