Tyrau Genoa yng Nghorsica
Mae Tyrau Genoa yng Nghorsica (Ffrangeg Tours génoises de Corse, Corseg Torri ghjinuvesi di a Corsica) yn gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari.
Roedd Corsica wedi cael ei reoli gan Genoa ers 1284 wedi iddynt sefydlu eu goruchafiaeth dros Weriniaeth Pisa yn y frwydr forol, Brwydr Meloria. Tua diwedd y 15 ganrif, roedd Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ehangu ei reolaeth o'r môr Canoldir i'r gorllewin, a daeth yn rym morwrol amlwg yn y rhanbarth. Ym 1480 gwnaethant anrheithio Otranto yn ne'r Eidal ac ym 1516 bu iddynt drechu a dechrau rheoli Alger. Yn negawdau cyntaf y 16 ganrif dechreuodd corsairs Twrcaidd ymosod ar bentrefi o amgylch arfordir Corsica. Cafodd llawer o gannoedd o bentrefwyr eu cipio i gael eu gwerthu fel caethweision. Bu i Weriniaeth Genoa ymateb drwy adeiladu cyfres o dyrau o amgylch yr arfordir. Roedd y rhan fwyaf yn cael eu cynllunio ar ffurf gron gyda theras to wedi ei amddiffyn gyda rhyngdyllau (tyllau i daflu pethau megis cerrig, olew berw ac ati ar ben ymosodwr). Cafodd bron i gant eu hadeiladu cyn i Genoa penderfynu tua 1620 nad oeddynt yn llwyddo i amddiffyn yr ynys a rhoi'r gorau i'r rhaglen adeiladu.
Ym 1794, yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc, methodd llynges Prydain i gipio tŵr Genoa ger y Punta Mortella, un o'r ddau dŵr oedd yn warchod y fynedfa i borthladd Saint-Florent. Wedi i effeithiolrwydd a dylunio syml y tŵr creu argraff arnynt, penderfynodd gweinyddiaeth amddiffyn Prydain i godi llawer o adeiladau tebyg ar arfordiroedd Prydain gan eu galw'n Dyrau Martello.
Mae adfeilion y tyrau Genoa bellach yn nodwedd amlwg o arfordir Corsica. Mae llawer wedi cael eu rhestru'n swyddogol fel Henebion Hanesyddol gan Weinyddiaeth Diwylliant Ffrainc.
Cynnwys
Adeiladwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r tyrau yn dechrau'r 16 ganrif, ar gais y cymunedau er mwyn iddynt gael diogelu eu hunain yn erbyn y môr-ladron. Ym 1531 Danfonodd Banc San Siôr Genoa dau gynrychiolydd arbennig, Paolo Battista Calvo a Francesco Doria, i archwilio'r modd roedd yr ynys yn cael ei amddiffyn rhag y Môr-ladron Barbari.[1][2] Penderfynwyd cychwyn ar y gwaith o adeiladu naw deg o dyrau ar arfordir Corsica.
Dechreuodd y gwaith o dan oruchwyliaeth Sebastiano Doria a Pietro Filippo Grimaldi Podio. Y nod oedd ymestyn i Gorsica y system gwyliadwriaeth oedd eisoes mewn grym mewn rhannau eraill o'r môr Canoldir. Roedd y tyrau i berfformio tair swyddogaeth: amddiffyn y pentrefi a phorthladdoedd; gweithredu fel tirnodau ar gyfer llywio llongau a chaniatáu i newyddion am ymosodiad lledu'n gyflym i gymunedau eraill ar hyd yr arfordir.[3]
Mae cofrestr o'r tyrau a gynhyrchwyd gan yr awdurdodau ym 1617 yn cofnodi bodolaeth 86 tŵr.[4] Cafodd dau dŵr ychwanegol eu hadeiladu ar ôl creu'r gofrestr a rhoi'r gorau i'r cynllun adeiladu. Y ddau oedd Torra di Sponsaglia (a gwblhawyd ym 1619) a Torra di Sant'Amanza (a gwblhawyd ym 1620) y ddau yn ne Corsica rhwng Bonifacio a Porto-Vecchio. O 88 tŵr, mae ugain lle mae ychydig iawn neu ddim olion wedi goroesi. Roedd dau dŵr ar y rhestr oedd eisoes mewn cyflwr adfeiliedig ym 1617: y Torra di Vignale a Torra di Travo, y ddau ar arfordir y dwyrain.[5]
Swyddogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd garsiwn tŵr yn cynnwys rhwng dau a chwech o ddynion (Corseg torregiani), wedi eu recriwtio o blith y trigolion ac yn cael eu talu o drethi lleol. Roedd y gwarchodwyr yn byw yn barhaol yn y tŵr. Roedd ganddynt ganiatad i adael y tŵr am ddim mwy na deuddydd ar y tro er mwyn casglu eu cyflogau a phrynu cyflenwadau. Dim ond un gwarcheidwad oedd yn gallu ymadael ar y tro. Dyletswydd y gwarchodwyr oedd cadw golwg am elynion a gosod tanau a signalau rhybudd. Bob bore a gyda'r nos roeddent yn ymgynnull ar y llwyfan, gan roi gwybod i fugeiliaid, morwyr a ffermwyr am ddiogelwch.
O weld môr-ladron, roedd signal yn cael ei ddanfon o'r teras ar ben y tŵr, ar ffurf mwg, tân neu sain o culombu (trymped cregyn mawr). O glywed neu weld signal rhybudd o berygl byddai'r trigolion yn symud eu teuluoedd ac anifeiliaid i ffwrdd o'r arfordir. O weld signal o un tŵr byddai'r tyrau agos yn danfon signal hefyd gan ei wneud yn bosibl i roi rhybudd o ymosodiad i'r ynys gyfan mewn ychydig iawn o amser.
Doedd yr awdurdodau dim yn rhoi digon o arfau i warchodwyr y tyrau. Roedd y gwarchodwyr yn aml yn esgeuluso eu rôl filwrol ac yn defnyddio eu tyrau i godi tollau ar longau masnachol.
Pensaernïaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd y tyrau yn cael eu hadeiladu o flociau carreg yn cael eu dal at ei gilydd gan forter. Roedd y rhan fwyaf o'r tyrau ar siâp cylch er bod ychydig yn sgwâr, megis y Torra di Portu a Torra di Pinareddu.[6] Roedd y tyrau crwn fel arfer yn 12 metr (39 troedfedd) mewn uchder a 10 metr (33 troedfedd) o ddiamedr ar y gwaelod yn gostwng i 7 metr (23 troedfedd) ar lefel y llawr cyntaf.[7][8] Roedd y sylfaen yn cynnwys seston a oedd yn cael ei lenwi â dŵr glaw trwy bibellau yn rhedeg o'r teras. Roedd ystafell gromennog ar y llawr cyntaf. Roedd modd mynd o'r ystafell gromennog i'r teras trwy ddringo grisiau oedd wedi eu hadeiladu ar y wal allanol a'u diogelu ar ben y tŵr gan dyred (darn o dŵr mwy o led na'r tŵr oddi tano). Roedd y teras yn cael ei amgylchynu gan ryngdyllau amddiffynol roedd y gwarchodwyr yn gallu defnyddio i daflu pethau megis cerrig neu saim berw ar ben ymosodwyr. Roedd drws mynediad y tŵr ar lefel y llawr cyntaf ac yn cael ei gyrraedd trwy ddefnyddio ysgol bren symudadwy. Roedd rhai o'r tyrau yn dalach ar tua 17 metr (56 troedfedd) o uchder ac yn cynnwys ail ystafell gromennog uwchben y cyntaf. Enghreifftiau o dyrau talach yw y Torra di a Parata ger Ajaccio a'r Torra di Santa Maria Chjapella yn Capicorsu.[9] Roedd y gwarchodwyr yn cynwys swyddog a dau neu dri o filwyr a oedd yn byw yn yr ystafell ar y llawr cyntaf. Roedd cilfachau yn waliau'r ystafelloedd cromennog a lle tân.[10]
Dirywiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Achosodd y tyrau problemau lluosog i awdurdodau Genoa. Roedd eu lleoliadau ynysig yn eu gwneud yn brif dargedau ar gyfer môr-ladron. Roedd diffygion yn y gwaith adeiladu yn achosi iddynt ddymchwel yn hawdd. Bu'n rhaid i Weriniaeth Genoa hefyd delio gyda llawer o wrthdaro ariannol, ffraeo rhwng gwahanol gymunedau, gwarchodwyr yn ffoi neu'n cynorthwyo'r gelyn i achub eu crwyn eu hunnain, dyledion heb eu talu a cheisiadau parhaus ar gyfer cyflenwadau ac arfau.
O ganlyniad, o ddiwedd yr 17 ganrif hyd 1768, adeg goncwest yr ynys gan Ffrainc, roedd y nifer o dyrau oedd yn cael eu cynal wedi gostwng yn sylweddol. Pan etholwyd Pasquale Paoli yn Arlywydd newydd annibynnol Weriniaeth Corsica ym 1755, dim ond 22 o dyrau gweithredol oedd ar ôl. Cafodd rhai ohonynt eu meddiannu gan filwyr Ffrengig. Achosodd yr herwfilwra parhaus yn ystod Arlywyddiaeth Paoli dinistr i nifer o'r adeiladau, gan gynnwys y tyrau Tizzano, Caldane a Solenzara. Yn y frwydr i sicrhau glaniad milwyr Prydain wrth greu Teyrnas Brydeinig Corsica ym 1794, difrodwyd tyrau Santa Maria della Chiappella a Mortella. Erbyn diwedd y 18 ganrif, ychydig iawn o'r tyrau oedd dal yn gyfan.
Treftadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Heddiw, mae tyrau Genoa yn cynrychioli rhan bwysig o dreftadaeth ynys Corsica. O'r 85 o dyrau oedd yn sefyll ar ddechrau'r 18 ganrif mae 67 yn dal i sefyll heddiw. Mae rhai yn adfeilion; mae eraill mewn cyflwr gweddol dda. Mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi yn fel Monuments historiques..
Mae rhywfaint o waith pwysig wedi ei wneud i adfer rhai o'r tyrau wedi ei ariannu gan yr awdurdodau lleol. Ond o herwydd diffyg moddion i warchod y cyfan mae llawer o'r symbolau hyn o hanes yr ynys yn parhau i ddirywio.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Graziani 1992, pp. 17-18.
- ↑ Graziani 2000, p. 80.
- ↑ Graziani 2000, p. 73.
- ↑ Graziani 1992, pp. 134-137.
- ↑ Graziani 1992, p. 135.
- ↑ Colombani, Philippe; Harnéquaux, Mathieu; Istria, Daniel (2008). "Les tours génoises". L'Alta Rocca (PDF). Centre Régional de Documentation Pédagogique de Corse. pp. 15–16. ISBN 978-2-86-620-212-5.
- ↑ Fréminville 1894, p. 48.
- ↑ Istria, Daniel; Harnéquaux, Mathieu. "La protection du littoral : un enjeu majeur aux XVIe et XVIIe siècles". Sevi - Sorru Cruzzini - Cinarca (PDF). Centre Régional de Documentation Pédagogique de Corse. pp. 17–20.
- ↑ Fréminville 1894, p. 51.
- ↑ Document d’objectifs NATURA 2000, Iles Pinarellu et Roscana, Zone spéciale de conservation FR9400585 (PDF). Conservatoire de l’Espace Littoral et des Rivages Lacustres. 2010. p. 31.
Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Fréminville, Joseph de (1894). "Tours génoises du littoral de la Corse". Bulletin archéologique du Comité des travaux historiques et scientifiques: 47-57. https://archive.org/stream/bulletinarcheol1894fran#page/46/mode/2up. The article was also published separately: Fréminville, Joseph de (1894). Tours génoises du littoral de la Corse (PDF). Paris. OCLC 494605587.
- Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales. Ajaccio, France: Alain Piazzola. ISBN 2-907161-06-7.
- Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie. La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. pp. 73–144. ISBN 2-84050-167-8. ])
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- Braudel, Fernand (1995) [1973]. The Mediterranean and the Mediterranean World in the Age of Philip II. Volume 2. Renolds, Sîan trans. Berkeley, CA: University of California Press. ISBN 978-0-520-20330-3.
- Graziani, Antoine-Marie (2001). "La menace barbareque en Corse et la construction d'un système de défense (1510-1610)". Revue d'histoire maritime (2-3): 141-160.
- Mérimée, Prosper (1840). Notes d'un voyage en Corse. Paris: Fournier jeune. pp. 163–165.
- Phillips, Carla Rahn (2000). "Navies and the Mediterranean in the early modern period". In Hattendorf, John B. Naval Strategy and Power in the Mediterranean: Past, Present and Future. Abingdon, Oxon, UK: Frank Cass. pp. 3–29. ISBN 0-7146-8054-0.
- Sutcliffe, Sheila (1973). Martello Towers. Cranbury, NJ: Associated Universities Press. ISBN 0-8386-1313-6.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". http://tour-genoise.fr/. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.