Nancy Ajram
| Nancy Ajram | |
|---|---|
| Ganwyd | نانسي نبيل عجرم 16 Mai 1983 Ashrafieh |
| Man preswyl | Keserwan District |
| Label recordio | EMI, In2Musica |
| Dinasyddiaeth | Libanus |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, canwr, dyngarwr, model |
| Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
| Cyflogwr | |
| Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, folk-pop, cerddoriaeth bop Arabaidd, cerddoriaeth Arabaidd, Khaliji |
| Taldra | 157 centimetr |
| Pwysau | 50 cilogram |
| Priod | Fadi El Hachem |
| Gwobr/au | 2008 World Music Awards |
| Gwefan | http://www.nancyajram.com/ |
Cantores boblogaidd o Libanus yw Nancy Nabil Ajram neu Nancy Agram (Arabeg: نانسي عجرم, ganed 16 Mai, 1983). Mae hi'n ferch i Nabil a Rimonda Ajram, o ardal Achrafieh yn Beirut.
Gyrfa gerddorol
[golygu | golygu cod]Rhyddhaodd ei halbym cyntaf yn 1998. Cafodd Nancy ei gyfle cyntaf yn 12 oed ar y rhaglen Noujoum Al-Moustakbal, cystadleuaeth gerddorol ar deledu Libanus: perfformiodd un o ganeuon clasurol Umm Kulthum ac enillodd ei chategori. Torrodd drwodd i boblogrwydd yn 2003 gyda'r albym mawr Ya Salam a'r fideos cerddororiaeth a ddaethant allan ar yr un pryd.
Erbyn hyn mae Nancy Ajram (neu Nancy yn unig i'w ffans) yn un o'r enwau mwyaf yn y byd canu pop Arabeg ac yn enwog o Gasablanca i Gairo am ei chaneuon deniadol a'i phersonoliaeth fywiog sy'n arbennig o gofiadwy ar fideos cerddorol.
Yn gerddorol, mae ei chaneuon yn gyfuniad o ddylanwadau Arabaidd traddodiadol a sawl genre Gorllewinol, yn arbennig pop. Mae ei delwedd yn secsi, modern a herfeiddiol. I raddau mae hi a chantorion ifainc eraill o'i chenhedlaeth yn ddyledus iawn i waith cantorion poblogaidd cynharach fel Latifa sydd wedi gwneud llawer i newid delwedd a statws cyhoeddus merched yn y byd Arabaidd yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2007-02-25 yn y Peiriant Wayback
- Nancy Ajram Official Archifwyd 2008-12-10 yn y Peiriant Wayback
- Proffeil Nancy Ajram ar "Arabic Nights" Archifwyd 2006-12-06 yn y Peiriant Wayback
- Clwb Nancy Ajram Archifwyd 2019-09-25 yn y Peiriant Wayback