Realaeth hudol

Oddi ar Wicipedia

Genre lenyddol neu arddull adroddiant yw realaeth hudol a nodweddir gan elfennau ffantasi a mytholegol a gynhwysir mewn ffuglen sydd fel arall yn realaidd.

Bathwyd yr enw gan y beirniad celf Franz Roh yn 1925 i ddisgrifio dulliau paentio ôl-fynegiadaeth yn yr Almaen.[1] Defnyddiwyd yn yr ystyr lenyddol yn gyntaf yn y 1940au. Llenorion o America Ladin ac Asia yn bennaf sydd wedi ysgrifennu yn y genre hon, ac mae nifer o feirniaid ac ysgolheigion wedi cydnabod cysylltiadau cryf rhwng realaeth hudol ac ôl-drefedigaethrwydd, gan ei bod yn darlunio dwy realiti ar wahân, megis realiti'r coloneiddwyr a realiti'r cynfrodorion.[2]

Ymhlith y llenorion pwysicaf o ffuglen realaidd hudol mae Gabriel García Márquez, Miguel Angel Asturias, Jorge Luis Borges, ac Isabel Allende yn Sbaeneg a Salman Rushdie a Nick Joaquin yn Saesneg.

Llên America Ladin[golygu | golygu cod]

Cysylltir realaeth hudol gan amlaf â llên America Ladin yn ail hanner yr 20g. Ymhlith y nofelau cyntaf o'r fath oedd El reino de este mundo (1949) gan Alejo Carpentier, Hombres de maíz (1949) gan Miguel Angel Asturias, a Pedro Páramo (1955) gan Juan Rulfo. Un o gampweithiau'r genre ydy Cien años de soledad (1967) gan Gabriel García Márquez. Roedd y rheiny i gyd, ac awduron tebyg megis Demetrio Aguilera Malta a João o Guimarães Rosa, yn adrodd straeon o safbwynt cyntefig sy'n tynnu ar hen ddiwylliannau ac yn herio normau'r Gorllewin. Cyflwynir mythau, hud, ac ofergoeliaeth yn realiti bob dydd, a theflir amheuaeth ar agweddau o fodernedd a thechnoleg.[1]

Defnyddiwyd yr enw realaeth hudol gan y dramodydd Rodolfo Usigli, y beirniaid Alvaro Lins a José Antonio Portuondo, a'r nofelydd Alejo Carpentier i ddisgrifio genre newydd oedd yn cyfuno ffuglen realaidd draddodiadol â ffasiynau seicolegol a dirfodol y cyfnod, yn enwedig gan lenorion yr Ariannin, Wrwgwái, a Tsile. Dechreuodd ail oes o realaeth hudol yn sgil cyhoeddi erthygl ddylanwadol gan Angel Flores yn 1955, a ddiffiniodd y term fel "cymysgedd o realiti a ffantasi", ac yn nodi Franz Kafka fel rhagflaenydd y genre a Jorge Luis Borges fel symbylydd yn llên America Ladin. Erbyn y 1970au, wrth i lenyddiaeth ffantasi ennill ei lle fel genre ar wahân, ystyriwyd realaeth hudol yn ffurf anthropolegol ar ffuglen fodernaidd sy'n portreadu bydolwg hudol y bobloedd gyntefig.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Erik Camayd-Freixas, "magical realism" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), tt. 329–31.
  2. (Saesneg) Magic realism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • María-Elena Angulo, Magic Realism: Social Context and Discourse (Efrog Newydd: Garland, 1995).
  • Irlemar Chiampi, O realismo maravilhoso: Forma e ideologia no romance hispano-americano (São Paulo: Editora Perspectiva, 1980).
  • Seymour Menton, Historia verdadera del realismo mágico (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1998).
  • Lois Parkinson Zamora a Wendy B Faris (gol.), Magical Realism: Theory, History, Community (Durham, Gogledd Carolina: Duke University Press, 1995).