Juan Rulfo

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Juan Rulfo
Rulfo por Lyon.jpg
Juan Rulfo
Ynganiad Juan Rulfo.ogg Edit this on Wikidata
Ganwyd Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno Edit this on Wikidata
16 Mai 1917 Edit this on Wikidata
San Gabriel Municipality, Sayula Edit this on Wikidata
Bu farw 7 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata (68 oed)
Achos: canser yr ysgyfaint Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Mecsico Edit this on Wikidata
Galwedigaeth ysgrifennwr, sgriptiwr, ffotograffydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am The Burning Plain and Other Stories, Pedro Páramo Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad William Faulkner Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Xavier Villaurrutia, Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau a Gwyddorau, Gwobr Alfaguara, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.elem.mx/autor/datos/970 Edit this on Wikidata

Nofelydd, awdur straeon byrion, a sgriptiwr Mecsicanaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Juan Nepomuceno Carlos Pérez Rulfo Vizcaíno (16 Mai 19177 Ionawr 1986) a ystyrir yn un o lenorion gwychaf America Ladin yn yr 20g, er iddo ond gyhoeddi dau lyfr yn ystod ei oes: y gyfrol o straeon El llano en llamas (1953) a'r nofel Pedro Páramo (1955).

Ganed yn Jalisco i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Yn ystod ei blentyndod yng nghefn gwlad Gorllewin Mecsico roedd yn dyst i Ryfel Cristero (1926–29). Collodd ei deulu y drwch o'i ffortiwn o ganlyniad i drais a therfysg y cyfnod. Symudodd Rulfo a'i deulu i Ddinas Mecsico ym 1933 a gweithiodd Juan i gwmni rwber. Yn ddiweddarach cafodd waith yn ysgrifennu sgriptiau ffilm. Roedd yn hoff iawn o waith y nofelydd Americanaidd William Faulkner.[1]

Ysgrifennodd sawl stori fer i'r cylchgrawn llenyddol Pan, a chawsant eu casglu, gyda straeon eraill, yn El llano en llamas. Maent yn ymwneud â thrais ac anfoesoldeb yng nghefn gwlad gan ddefnyddio technegau traethiadol newydd megis llif ymwybod, ôl-fflachiau, a safbwyntiau cyfnewidiol. Enghraifft cynnar o'r nofel realaidd hudol yw Pedro Páramo, sydd yn archwilio cwymp cacique (penadur) mewn byd uffernol a drigiannir gan y meirw.

Penodwyd yn gyfarwyddwr adran olygyddol y Sefydliad Cenedlaethol dros Astudiaethau Brodorol, a bu'n cynghori awduron ifainc yng Nghanolfan Llenorion Mecsico. Bu farw Juan Rulfo yn Ninas Mecsico yn 68 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Juan Rulfo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2021.