Diwylliant Ecwador

Oddi ar Wicipedia

Cynnyrch o draddodiadau brodorol, Sbaenaidd, ac Affricanaidd y bobl a dylanwadau rhanbarthol cryf yw diwylliant Ecwador. Mae'r mestisos (pobl o dras gymysg Ewropeaidd a brodorol) yn cyfri am ryw 80% o'r boblogaeth, ac mae'r lleiafrifoedd ethnig yn cynnwys brodorion (siaradwyr Quechua yn bennaf), gwynion, duon, a mylatos (pobl o dras gymysg Ewropeaidd ac Affricanaidd). Gellir rhannu'r wlad yn 12 o ranbarthau diwylliannol, o leiaf: cymunedau mestiso y gogledd; brodorion Quechua y gogledd; mestisos yr ucheldiroedd yn y canolbarth; y Quechua yn y canolbarth; trigolion y brifddinas Quito; dinas festiso Cuenca; dinas festiso Loja; y Quechua yn y de; pobl dduon Esmeraldas; diwylliant cymysg mestiso a mylato yr arfordir; brodorion Shuar ger blaenddyfroedd Afon Marañón; a'r Quechua yn y rhanbarth Amasonaidd. Mae ambell rhan o'r wlad yn hynod o gymysg o ran ei phoblogaeth a'i diwylliant, er enghraifft Santo Domingo de los Colorados a'r Oriente yn y gogledd-ddwyrain. Diwylliant mestisos yr ucheldiroedd yn y canolbarth sydd fel arfer yn cael lle blaenllaw yn genedlaethol, ac yn fwyfwy cysylltir hunaniaeth y rheiny â diwylliant dinesig Quito, yn aml mewn cyferbyniad â diwylliant cymysg mestisos a mylatos yr arfordir a dinas Guayaquil.[1]

Celf[golygu | golygu cod]

La Virgen alada del Apocalípsis gan Miguel de Santiago, esiampl o baentio la escuela Quiteña.

Yn ystod y cyfnod trefedigaethol, roedd Real Audiencia de Quito yn ganolfan i draddodiad o baentwyr a cherflunwyr a elwir la escuela Quiteña (Ysgol Quito), yn eu plith Miguel de Santiago (1620/33–1706), Isabel de Santiago (1660au–1714), Bernardo de Legarda (tua 1700–73), Caspicara (tua 1723–96), a Vicente Albán (blodeuai 1767–96). Datblygodd arddull y mudiad celf hwn o ganlyniad i gymysgu'r diwylliant Sbaenaidd a chymdeithas frodorol y wlad, gan gyfuno elfennau baróc a rococo a themâu Catholig â phortreadau'r Byd Newydd megis gwisgoedd lleol a golygfeydd yr Andes. Mae arlunwyr Ecwadoraidd o hyd yn atgynhyrchu ac yn dynwared campweithiau la escuela Quiteña. Yn yr 20g, derbyniodd y paentiwr Oswaldo Guayasamín (1919–99) glod am ei bortreadau ciwbyddol o bobloedd frodorol Ecwador.

Mae cymunedau brodorol a mestizo ar draws Ecwador yn arbenigo mewn gwahanol grefftau gwerin: sachau o linion agafe ger Riobamba a Salcedo, cerfio coed yn Ibarra, gwaith lledr yn Cotacachi, tapestrïau gwlân yn Otavalo, Doctor Miguel Egas, a Salasaca, carpedi yn Guano, a hetiau Panama yn Monte Cristi a ger Cuenca.

Cerddoriaeth a dawns[golygu | golygu cod]

Mae traddodiadau cerddoriaeth werin Ecwador yn cynnwys yumbo a sanjuanito yn yr ucheldiroedd, a pasillo yn yr iseldiroedd. Ceir traddodiadau sydd yn cyfuno elfennau brodorol ac Affricanaidd yn y rhanbarth Amasonaidd, yr ucheldiroedd, a'r arfordir. Dylanwadir ar gerddoriaeth gyfoes Ecwador gan cumbia o Golombia a salsa o'r Caribî.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Prif lenor Ecwador yn ystod y cyfnod trefedigaethol oedd Eugenio Espejo (1747–95), a oedd hefyd yn feddyg, cyfreithiwr, ac ymgyrchydd dros annibyniaeth. Fe'i ystyrir yn arloeswr newyddiaduraeth yn Ecwador ac yn ddychanwr ac ysgrifwr polemig o fri. Un o'r rhyddieithwyr gwychaf yn holl lên America Ladin yn y 19g oedd Juan Montalvo (1832–89), sydd yn nodedig am ei erthyglau a phamffledi rhyddfrydol tanbaid. Cyflwynwyd realaeth i lên Ecwador gan Luis A. Martínez (1869–1909) gyda'i nofel A la Costa (1904).

Prif gyfraniad Ecwador at y mudiad indigenismo yn hanner cyntaf yr 20g oedd y nofel Huasipungo (1934) gan Jorge Icaza (1906–78), sydd yn ymwneud â brwydr y bobloedd frodorol yn erbyn y tirfeddianwyr yn yr Andes. Yn y 1930au a'r 1940au daeth criw o lenorion ifainc o'r enw Grŵp Guayaquil i'r amlwg. Bu'r pump awdur hwn – Joaquín Gallegos Lara (1909–47), Enrique Gil Gilbert (1912–73), Demetrio Aguilera Malta (1909–81), José de la Cuadra (1903–41), ac Alfredo Pareja Diezcanseco (1908–93) – yn ysgrifennu am fywydau'r montuvio (y bobl o dras gymysg frodorol, Affricanaidd, ac Ewropeaidd) o ranbarth yr arfordir, a hynny gydag agweddau o realaeth gymdeithasol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ecuador: Cultural milieu. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Hydref 2020.