Het Banama

Oddi ar Wicipedia

Het gantel o Ecwador yw het Banama, a wneir o ddail cordeddog y planhigyn Carludovica palmata. Cafodd hetiau gwellt a wehyddwyd yn Ecwador eu cludo, gyda nwyddau eraill o Dde America yn y 19g a chychwyn yr 20g, yn gyntaf i Guldir Panama cyn hwylio at eu cyrchfannau yn Asia, gweddill yr Amerig, ac Ewrop. Ar gyfer rhai cynnyrch, defnyddiwyd enw ei fan gwerthu rhyngwladol yn hytrach na'i darddle, a gan hynny fe'i elwir yn het Banama.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddillad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.