Luis A. Martínez
Luis A. Martínez | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Mehefin 1869 ![]() Ambato ![]() |
Bu farw | 26 Tachwedd 1909 ![]() Ambato ![]() |
Dinasyddiaeth | Ecwador ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, arlunydd, gwleidydd ![]() |
Swydd | National Assembly Deputy ![]() |
Adnabyddus am | A la costa ![]() |
Plant | Blanca Martínez Mera ![]() |
Llenor, arlunydd, a gwleidydd rhyddfrydol o Ecwador oedd Luis Alfredo Martínez Holguín (23 Mehefin 1869 – 27 Tachwedd 1909) sydd yn nodedig am gyflwyno realaeth i lên Ecwador gyda'i nofel A la Costa (1904).
Ganed yn ninas San Juan de Ambato yn fab i Nicolás Martínez Vásconez ac Adelaide Holguín Naranjo. Mynychodd yr Escuela de la Merced yn Ambato cyn aeth i Quito i astudio yn Colegio San Gabriel dan yr Iesuwyr. Gadawodd yr ysgol ym 1886 heb raddio ac ymdynghedai i lenydda. Dychwelodd i Ambato i weithio ar ystadau amaethyddol ei dad.[1]
Penodwyd Martínez yn Ddirprwy Gwleidyddol dros Mulalillo ym 1894. Adeg sgandal "La Venta de la Bandera", pan gafodd arfau eu gwerthu i Japan gan lysgennad Ecwador yn Tsile, mynegodd Martínez ei wrthwynebiad i lywodraeth yr Arlywydd Luis Cordero. Ymunodd Martínez â'r chwyldro rhyddfrydol yn Guayaquil ym Mehefin 1895 a lwyddodd i sefydlu arlywyddiaeth Eloy Alfaro. Etholwyd Martínez yn ddirprwy dros dalaith Tungurahua yn y Gyngres Genedlaethol o 1898 i 1899. Fe'i penodwyd yn rheolwr a gweinyddwr y cwmni siwgr Ingenio Valdez, ym Milagro, ym 1900. Ar 31 Awst 1903 cafodd ei benodi yn Bennaeth Gwleidyddol Ambato gan yr Arlywydd Leónidas Plaza, a deufis yn ddiweddarach aeth i Quito i wasanaethu yn is-weinidog addysg Ecwador. Fe'i dyrchafwyd yn weinidog addysg ym 1904 ac yn ei swydd sefydlodd sawl ysgol a chanolfan amaethyddol ar draws y wlad, gan gynnwys Cyfadran y Gwyddorau, Ysgol y Celfyddydau Cain a'r Ysgol Amaethyddol Normal yn Ambato, a gweithiodd i uno'r cwricwlwm yn Ecwador. Cynlluniodd hefyd i ffurfio ysgolion mwyngloddio, diwydiannol, masnachol, ac ati.[1]
Ym 1903 cyhoeddodd Martínez ei weithiau Disparates y Caricaturas a Camino al Oriente. Cyhoeddwyd ei nofel enwog, A la Costa, ym 1904. Ym 1905 cyhoeddodd ddau lyfr ar bwnc amaeth, Catecismo de Agricultura a La Agricultura Ecuatoriana. Bu hefyd yn paentio tirluniau a golygfeydd o fyd natur, ac ym 1903 fe'i comisiynwyd i baentio sawl llun fel rhodd o Ecwador i'r Pab Leo XIII.[1]
Priododd Luis A. Martínez â María Rosa Mera Iturralde ym 1896. Yn sgil ei marwolaeth, aeth Martínez yn feudwy bron, a threuliodd weddill ei oes ar ei ystâd La Lira, ger Atocha, nes iddo farw o'r diciâu yn 40 oed.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Sbaeneg) "Luis A. Martínez", Enciclopedia del Ecuador. Adalwyd ar 8 Tachwedd 2020.
- Arlunwyr Ecwadoraidd y 19eg ganrif
- Arlunwyr Ecwadoraidd yr 20fed ganrif
- Genedigaethau 1869
- Gweinidogion addysg
- Gwleidyddion Ecwadoraidd y 19eg ganrif
- Gwleidyddion Ecwadoraidd yr 20fed ganrif
- Llenorion Ecwadoraidd y 19eg ganrif
- Llenorion Ecwadoraidd yr 20fed ganrif
- Marwolaethau 1909
- Nofelwyr Ecwadoraidd yn yr iaith Sbaeneg
- Paentwyr Ecwadoraidd
- Pobl fu farw o dwbercwlosis