Jorge Icaza

Oddi ar Wicipedia
Jorge Icaza
Ganwyd10 Mehefin 1906 Edit this on Wikidata
Quito Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1978 Edit this on Wikidata
Talaith Loja Edit this on Wikidata
DinasyddiaethEcwador Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Unidad educativa Mejia Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, ysgrifennwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHuasipungo, El chulla Romero y Flores Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd, dramodydd, a diplomydd Ecwadoraidd oedd Jorge Icaza Coronel (10 Gorffennaf 190626 Mai 1978).

Ganwyd yn Quito, prifddinas Ecwador. Cychwynnodd ar yrfa yn ysgrifennu i'r theatr, ond trodd at y nofel pan gafodd ei geryddu am y ddrama El dictador (1933). Mae ei nofel gyntaf, Huasipungo (1934), yn ymwneud â brwydr y bobloedd frodorol yn erbyn y tirfeddianwyr. Dyma enghraifft bwysig o lên y mudiad indigenismo, a bu'n codi cywilydd ar y dosbarth uchaf yn Ecwador yn sgil ei cyhoeddi. Ymhlith ei nofelau eraill, y mwyafrif ohonynt yn bortreadau realaidd o fywydau'r tlodion a'r brodorion, mae En las calles (1934), Media vida deslumbrados (1942), Huairapamushcas (1948), Seis veces la muerte (1954), ac El chulla Romero y Flores (1958).[1]

Yn y 1970au gwasanaethodd Icaza yn llysgennad Ecwador i Beriw a'r Undeb Sofietaidd. Bu farw yn Quito yn 71 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jorge Icaza. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.