Diwylliant Gweriniaeth Dominica

Oddi ar Wicipedia

Datblygodd diwylliant Gweriniaeth Dominica yn bennaf ar sail etifeddiaeth Sbaenaidd y wlad a chyda dylanwadau Affricanaidd sydd yn adlewyrchu hanes amlhiliol y wlad fel rhan o Gapteiniaeth Gyffredinol Santo Domingo yn Ymerodraeth Sbaen. Rhennir ynys Hispaniola rhwng Gweriniaeth Dominica a Haiti, a fu'n meddiannu cyn-wladfa Santo Domingo o 1822 nes rhyfel annibyniaeth ym 1844. Dylanwadwyd ar ddiwylliant Gweriniaeth Dominica i raddau gan ddiwylliant Haiti, er i nifer o Ddominiciaid adweithio'n erbyn yr ymddiwylliannu hwnnw mewn ymgais i fynegi diwylliant cenedlaethol unigryw.

Cerddoriaeth a dawns[golygu | golygu cod]

Mae Gweriniaeth Dominica yn enwog am ddwy genre o gerddoriaeth a dawns, merengue a bachata, sydd yn defnyddio rhythmau Affricanaidd ac elfennau o'r traddodiad Ewropeaidd. Gellir olrhain merengue a'r genre debyg méringue yn Haiti yn ôl i ganol y 19g, pryd cyfunwyd arddulliau rhythmig Gorllewin Affrica gyda dawnsiau gwerin i ddeuoedd o Sbaen a Ffrainc, a hefyd elfennau o gerddoriaeth frodorol y Taino. Dylanwadwyd ar merengue yn gryf gan gerddoriaeth Ciwba a Feneswela, a datblygodd sawl ffurf ranbarthol ar draws Gweriniaeth Dominica. Dan unbennaeth Rafael Trujillo (1930–61) mabwysiadwyd arddull merengue El Cibao yn gerddoriaeth genedlaethol y wlad.[1] Erbyn diwedd yr 20g roedd y ddawns wledig hon yn un o brif arddulliau y neuadd ddawns yn America Ladin. Cynhelir gwyliau merengue mawr yn ninasoedd Santo Domingo a Puerto Plata. Datblygodd bachata yn nechrau'r 20g yn bennaf o'r genres Ciwbaidd bolero a son, ac yn hanesyddol hon oedd cerddoriaeth y dosbarth gweithiol, a glywid mewn tafarnau a phuteindai ar gyrion Santo Domingo. Cynhyrchwyd offerynnau traddodiadol bachata o ddefnyddiau rhad, er enghraifft yr offeryn taro güira o duniau alwminiwm neu ddrymiau o grwyn geifr.[2] Cenir hefyd alawon gwerin o'r traddodiad Sbaenaidd. Ymhlith y cantorion a cherddorion enwocaf o Weriniaeth Dominica mae Juan Luis Guerra (g. 1957) a Fernando Villalona (g. 1955).

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn ystod cyfnod y feddiannaeth gan Haiti, amlygwyd yr ymddeffroad cenedlaetholgar yn llên y Dominiciaid, yn enwedig ym marddoniaeth Félix Maria del Monte (1819–99). Cyfansoddwyd yr arwrgerdd genedlaethol Enriquillo: leyenda histórica dominicana (1879–82), sydd yn portreadu creulondeb y setlwyr Sbaenaidd tuag at y Taino, gan Manuel de Jesús Galván (1834–1910). Yn nechrau'r 20g ymunodd llenorion megis yr ysgrifwr Américo Lugo (1870–1952) a'r bardd Gastón Fernando Deligne (1861–1913) â'r mudiad modernismo a fu'n boblogaidd ar draws America Ladin. Daeth llenyddiaeth genedlaetholgar i'r amlwg unwaith eto yn ystod meddiannaeth Gweriniaeth Dominica gan yr Unol Daleithiau ym 1916–24. Un o brif themâu llên Gweriniaeth Dominica yn ail hanner yr 20g oedd y mudiad protest a materion cymdeithasol, er enghraifft yn straeon byrion y gwleidydd Juan Bosch (1909–2001). Mae awduron cyfoes yn ysgrifennu yn aml am fywydau beunyddiol y werin.

Celf[golygu | golygu cod]

Ymhlith yr arlunwyr o nod o Weriniaeth Dominica mae Ramón Oviedo (1924–2015), José Rincón Mora (1939–2016), a Leopoldo Navarro (1862–1908).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Merengue" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Ebrill 2020.
  2. (Saesneg) "Bachata" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Ebrill 2020.