Dolores Ibárruri
Dolores Ibárruri | |
---|---|
![]() Dolores Ibárruri in 1978 | |
Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Sbaen | |
Yn ei swydd Mawrth 1942 – 3 Gorffennaf 1960 | |
Rhagflaenwyd gan | José Díaz |
Dilynwyd gan | Santiago Carrillo |
Manylion personol | |
Ganwyd |
Isidora Dolores Ibárruri Gómez 9 Rhagfyr 1895 Gallarta, Gwlad y Basg |
Bu farw |
12 Tachwedd 1989 (93 oed) Madrid, Sbaen |
Cenedligrwydd | Basgiad |
Plaid wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Sbaen |
Arwres Weriniaethol o Wlad y Basg, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, oedd Isidora Dolores Ibárruri Gómez (9 Rhagfyr 1895 – 12 Tachwedd 1989) – a alwyd hefyd yn "La Pasionaria" (Sbaeneg am Flodyn y dioddefaint); roedd hefyd yn wleidydd comiwnyddol o dras Basgaidd, a oedd yn enwog am ei slogan ¡No Pasarán! ("Gwnawn nhw ddim mynd heibioǃ") yn ystod Brwydr Madrid yn Nhachwedd 1936.
Ymunnodd â Phlaid Comiwnyddol Sbaen (Partido Comunista Español, neu'r PCE) pan sefydlwyd y blaid yn 1921. Daeth yn ysgrifenwraig i'r Mundo Obrero, sef cyhoeddiad gan y PCE, ac yn Chwefror 1936 fe'i hetholwyd i'r Cortes Generales fel dirprwy i'r PCE tros Asturias. Yn dilyn ei halltudiaeth o Sbaen ar ddiwedd y Rhyfel Carterf, fe'i pennwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol i Bwyllgor Canolog Plaid Comiwynyddol Sbaen, ac arhosodd yn y safle hon o 1942 hyd at 1960. Fe'i gelwid yn Arlywydd Anrhydeddus y PCE, safle y cadwodd hyd ddiwedd ei hoes. Pan ddychwelodd i Sbaen yn 1977, fe'i hail-etholwyd fel dirprwy i'r Cortes i gynrychioli'r un rhanbarth a chynrychiolai yn ystod yr Ail Weriniaeth.
Adeiladwyd cerflun i Dolores Ibarruri'n Glasgow, a chofeb syml iddi'n Tudweiliog yn Pen Llŷn. Coelir mai'r rhain yw'r unig gofebion i Dolores Ibarruri. Mae Dolores wedi ei chladdu'n mynwent La Almudena, Pueblo Nuevo, Madrid, Sbaen.
|