Theodor W. Adorno

Oddi ar Wicipedia
Theodor W. Adorno
Ganwyd11 Medi 1903 Edit this on Wikidata
Frankfurt am Main Edit this on Wikidata
Bu farw6 Awst 1969 Edit this on Wikidata
Visp Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, yr Almaen, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Hans Cornelius Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, cyfansoddwr, cerddolegydd, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol, beirniad cerdd, gwirebwr, pianydd, ysgrifennwr, academydd, esthetegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amGesammelte Schriften, Negative Dialektik, Ästhetische Theorie, Dialektik der Aufklärung, Philosophie und Musik, Minima Moralia, The Authoritarian Personality Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWalter Benjamin, Max Horkheimer, Georg Hegel, Karl Marx, Friedrich Nietzsche Edit this on Wikidata
MudiadYsgol Frankfurt, cerddoriaeth glasurol yr 20fed ganrif, continental philosophy Edit this on Wikidata
PriodGretel Adorno Edit this on Wikidata
Gwobr/auPlac Goethe Dinas Frankfurt am Main Edit this on Wikidata

Athronydd Marcsaidd, cymdeithasegydd, a cherddolegydd o'r Almaen oedd Theodor Wiesengrund Adorno (11 Medi 19036 Awst 1969).

Ganwyd yn Frankfurt am Main yn nhalaith Hessen, i fam Gatholig o Gorsica a thad Protestannaidd o dras Iddewig. Yn Frankfurt fe enillodd ddoethuriaeth mewn athroniaeth o Brifysgol Johann Wolfgang Goethe. Aeth i Fienna yn 1925 i astudio dan y cyfansoddwr Alban Berg. Dychwelodd i Frankfurt yn 1927 ac ymunodd â'r Institut für Sozialforschung (IfS) yn y brifysgol. Y sefydliad hwnnw a gynhyrchai Ysgol Frankfurt, ac Adorno oedd un o brif feddylwyr y mudiad deallusol hwnnw.

Cafodd Adorno a nifer o aelodau eraill yr IfS eu gyrru allan o'r Almaen gan y llywodraeth Natsïaidd yn 1934, a symudodd Adorno i Loegr i addysgu ym Mhrifysgol Rhydychen. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1938, ac yno fe gyd-weithiodd gyda Max Horkheimer, cyfarwyddwr yr IfS, wrth ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys Dialektik der Aufklärung (1947). Dychwelodd Adorno a Horkheimer i'r Almaen yn 1949, ac ailgychwynasant eu gwaith yn Frankfurt yn 1951. Bu farw yn 65 oed.

Diwydiant diwylliant[golygu | golygu cod]

Cysyniad amlycaf Adorno yw'r diwydiant diwylliant, a gyflwynir mewn pennod o Dialektik der Aufklärung sy'n disgrifio sut y dadelfennir celfyddyd yn y system gyfalafol er mwyn creu cynnyrch masnachol, torfol. Dadleua Adorno bod y diwydiant yn effeithio'n negyddol ar anian a nodweddion celfyddyd drwy bwysleisio'i marchnadwyedd ar draul ei "diffyg pwrpas" (celfyddyd er mwyn celfyddyd). Felly, tro diwylliant yn nwydd economaidd i'w gyfnewid yn hytrach na pheth o werth ynddo'i hun. Mae Adorno yn gwadu taw'r un peth yw rhinwedd neu deilyngdod cynnyrch diwylliannol a'i bris cymdeithasol, sydd yn ffetis.[1] Effaith y fath fasnacheiddio yw ymyleiddio celfyddyd annibynnol, megis celf fodernaidd ac haniaethol, yr union gelfyddyd sydd yn gallu "herio cyfundrefn cyfalaf, naill ai trwy amlygu natur ddrylliedig realiti cymdeithasol neu trwy gynnig gweledigaeth dra gwahanol o'r byd".[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Theodor W. Adorno", Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2015). Adalwyd ar 19 Medi 2018.
  2. Dafydd Huw Rees, "Diwydiant diwylliant" yn yr Esboniadur (Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Adalwyd ar 19 Medi 2018.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Hauke Brunkhorst, Adorno and Critical Theory (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1999).