Ysgol Frankfurt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Adeilad yr Institut fuer Sozialforschung

Ysgol Frankfurt yw'r enw ar yr ysgol ddeallusol a ddatblygodd syniadau ym maes Marcsiaeth Newydd, Cymdeithaseg a Theori Gymdeithasol yn yr 20g.[1]

Yn ganolog i Ysgol Frankfurter yw'r cysyniad o theori beirniadol. Daw enw'r grŵp o Brifysgol Frankfurt-am-Main, pan benodwyd Max Horkheimer yn bennaeth yr Institut für Sozialforschung (Athroniaeth Ymchwil Gymdeithasol) yn 1931 a'i gorff o waith, Zeitschrift für Sozialforschun (Cofnodolyn Ymchwil Gymdeithasol) (1932-41).

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Casglodd Ysgol Frankfurter ynghŷd Marcswyr anniddig oedd yn teimlo bod Marcsiaeth wleidyddol fel y'i ymarferwyd ar y pryd gan bobl fel y KPD (Plaid Gomiwnyddol yr Almaen) yn dehongli syniadau Marx mewn ffordd rhy gul. Ceisiau'r ysgol newydd ddatblygu syniadaeth Marx i feysydd a chymdeithas na fyddai Marx ei hun yn gyfarwydd â hi ac felly, heb ddatblygu theoli yn ei chylch. Bydd nifer o'i syniadaeth ym maes celf a chymdeithas yn sail ar gyfer mudiadau Avant-garde.

Max Horkheimer (bl-ch), Theodor W. Adorno (bl-dde), Jürgen Habermas a Siegfried Landshut yn y cefndir, yn Heidelberg, 1964

Yn ystod y cyfnod mwyaf cynhyrchiol yn yr 1930au a'r 1940au, ffurfiodd Ysgol Frankfurter gylch rhagorol o feirniaid cymdeithasol: yn ogystal â Max Horkheimer, ideolegydd blaenllaw a phwynt ffocws y cylch, gellir cynnwys Theodor Adorno (Athroniaeth, Cymdeithaseg), Stephen Herbert Marcuse (athroniaeth), Leo Löwenthal (llenyddiaeth, cymdeithaseg), Walter Benjamin (theori lenyddol), Erich Fromm (seicolegol), Friedrich Pollock (economeg), Henryk Grossmann (economeg), Karl August Wittfogel (Hanes Economaidd) Franz Borkenau (Hanes), Otto Kirchheimer (Cymdeithaseg Barnwrol) a Franz Neumann (Cymdeithaseg Barnwrol).

Bu'n rhaid i nifer o'r athronwyr yma ffoi o'r Almaen yn dilyn tŵf Adolf Hitler a rheolaeth Natsiaeth o'r Almaen yn 1933. Symudwyd y sefydliad i Genefa a Paris yna Efrog Newydd, lle daeth i ben ar ddiwedd y 40au. Yn ystod y cyfnod ymfudo, cwblhaodd cylch Ysgol Frankfurt nifer o astudiaethau cymdeithasol-damcaniaethol arloesol, gan gynnwys "Awdurdod a Theulu" (1936) a'r "Y Bersonoliaeth Awdurdodol" (1950). Mae'n amlwg gan y rhain, fel mewn astudiaethau eraill, eu bod yn torri'r ffiniau traddodiadol rhwng y pynciau academaidd: Mae'r tueddfryd rhyngddisgyblaethol yn caniatáu i gysyniadau o gymdeithas gael ei weld, astudio a deall o fewn fframwaith gyfannol.

Ail-don[golygu | golygu cod y dudalen]

Y rhan fwyaf pwysig ymhlith cynrychiolwyr diweddarach ac 'ail-don' yr ysgol o'r 1960au oedd Jürgen Habermas (athroniaeth, theori gwyddoniaeth, cymdeithaseg), Alfred Schmidt (athroniaeth, cymdeithaseg), Oskar Negt (athroniaeth a theori wleidyddol) ac Axel Honneth (moeseg, cymdeithaseg). Ystyrir bod yr olaf yn olynydd Habermas a sylfaenydd theori beirniadol fodern hwyr, yn ogystal â chymryd ei swydd yn y Institut für Sozialforschung yn Frankfurt.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://plato.stanford.edu/entries/critical-theory/