Marcsiaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)

Oddi ar Wicipedia

Mae damcaniaethau Marcsaidd o gysylltiadau rhyngwladol yn gwrthod safbwyntiau realaidd a rhyddfrydol parthed gwrthdaro a chydweithio rhwng gwladwriaethau ac yn tynnu ar syniadaeth Farcsaidd, ideoleg a gwyddor honedig a sefydlwyd gan Karl Marx (1818–83) a Friedrich Engels (1820–95), i ddadansoddi cysylltiadau rhyngwladol. Canolbwyntia Marcswyr ar agweddau economaidd a materol, ar batrwm materoliaeth hanesyddol sydd yn hawl i athroniaeth Farcsaidd. Yn ôl y ddealltwriaeth Farcsaidd o hanes y ddynolryw a grym gwleidyddol ac economaidd, cyfundrefn gyfalafol integreiddedig ydy'r system fyd-eang sydd yn tra-arglwyddiaethu ar bob agwedd o fywyd rhyngwladol, ac mae materion economaidd a dosbarth cymdeithasol yn trosgynnu popeth arall.

Marcsiaeth glasurol[golygu | golygu cod]

Dim ond ychydig o sôn sydd am wleidyddiaeth ryngwladol mewn ysgrifeniadau Karl Marx. Er gwaethaf, mae ei ddadansoddiadau o economeg a'r wladwriaeth wedi siapio'r meddylfryd adain-chwith o gysylltiadau rhyngwladol. Mae gwaith enwocaf Marx ac Engels, Y Maniffesto Comiwnyddol (1848), yn nodi twf cyfalafiaeth a'i hymlediad o amgylch y byd. Mae rhai wedi cydnabod y sylwadau hyn yn rhagwelediad o globaleiddio economaidd yn yr 20g a'r 21g.[1]

Fel rheol, mae ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol yn ystyried y wladwriaeth sofran yn brif weithredydd y gyfundrefn ryngwladol ac yn lefel dadansoddi bwysicaf wrth ddadansoddi gwleidyddiaeth ac economeg fyd-eang. Mae realwyr yn enwedig yn deall y byd trwy wladwriaeth-ganoliaeth a gallu'r genedl-wladwriaeth i heddychu ei phoblogaeth, i amddiffyn ei thiriogaeth rhag lluoedd allanol, ac i weithredu ar y llwyfan ryngwladol er buddiannau'r wlad. Yn ôl Marcswyr, sydd fel rheol yn credu mewn chwyldro byd-eang, erfyn y dosbarthiadau uchaf er hybu cyfalafiaeth ydy'r wladwriaeth. Gwelir y dosbarth cyfalafol yn ennill ei rym drwy reoli'r economi, sydd yn ei alluogi i dra-arglwyddiaethu dros y proletariat a'i orthrymu. Trwy gyfundrefn fyd-eang o wahanol wladwriaethau, mae cyfalafwyr yn canfod marchnadau ac adnoddau newydd ac yn ymelwa arnynt, ar draul y dosbarthiadau is. Yn ddiweddarach, dadleuai Harold Laski (1893–1950) taw mwgwd i guddio gwrthdaro dosbarth a threchedd y cyfalafwyr ydy sofraniaeth y wladwriaeth.[1]

Leniniaeth[golygu | golygu cod]

Yr amrywiad mwyaf dylanwadol ar Farcsiaeth parthed cysylltiadau rhyngwladol oedd Leniniaeth. Diffiniodd Vladimir Lenin (1870–1924) imperialaeth yn "gam uchaf cyfalafiaeth", yn benodol, yr oes lle mae cyfalaf monopoli yn tra-arglwyddiaethu, ffurf ar gyfalafiaeth sydd yn wahanol i'r hyn a drafodai Marx. Mae hyn yn gorfodi i wledydd a chorfforaethau gystadlu dros reolaeth – wleidyddol, filwrol, neu ariannol – adnoddau a marchnadoedd ledled y byd. Dadleuai Lenin byddai cyfalafiaeth a threfedigaethrwydd yn cwympo, er bod digon o ddatblygiadau i rwystro'r chwyldro hwnnw. Ni chafodd ffurfiau diweddarach ar Farcsiaeth, megis Staliniaeth a Maoaeth, gymaint o ddylanwad ar ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol.

Damcaniaethau dibyniaeth[golygu | golygu cod]

Mae damcaniaethau dibyniaeth yn ceisio egluro'r rhesymau am ecsbloetiaeth economaidd y gwledydd datblygol a dyfalbarhad y rhaniad Gogledd-De. Ymhlith y meddylwyr eraill yn y maes hwn mae Raúl Prebisch (1901–86), André Gunder Frank (1929–2005), ac Immanuel Wallerstein (1930–2019).[2]

Gramsciaeth a damcaniaeth feirniadol[golygu | golygu cod]

Antonio Gramsci

Un o'r meddylwyr Marcsaidd a gafodd y mwyaf o ddylanwad ar ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yw Antonio Gramsci (1891–1937), a bwysleisiai hegemoni yr ideoleg gyfalafol. Robert W. Cox (1926–2018) oedd yr ysgolhaig cyntaf i addasu damcaniaeth hegemoni at ddamcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol. Er nad oedd Cox yn ystyried ei hunan yn Farcsydd, dylanwadwyd arno yn gryf gan athroniaeth Marx a'i ddilynwyr.[2]

Syniadaeth arall sydd yn tarddu o Farcsiaeth ydy Ysgol Frankfurt a damcaniaeth feirniadol, yn enwedig gwaith Jürgen Habermas (g. 1929). Un o'r brif ddamcaniaethwyr yn y traddodiad hwn yw Andrew Linklater (g. 1949), sydd yn ymdrin â moeseg ryngwladol ac ymryddhad. Mae sawl un o'r ysgol feirniadol yn arddel cosmopolitaniaeth.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Peter Lamb a Fiona Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (Lanham, Maryland: Rowman & Littlefield, 2017), t. 201.
  2. 2.0 2.1 2.2 Lamb a Robertson-Snape, Historical Dictionary of International Relations (2017), t. 202.