Slavoj Žižek

Oddi ar Wicipedia
Slavoj Žižek
Ganwyd21 Mawrth 1949 Edit this on Wikidata
Ljubljana Edit this on Wikidata
Man preswylLjubljana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSlofenia, Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Jacques-Alain Miller Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, seicolegydd, cultural studies scholar, cymdeithasegydd, academydd, awdur ysgrifau, seicdreiddydd, cultural critic, gwleidydd, diwinydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, actor, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadLouis Althusser, Alain Badiou, G. K. Chesterton, Božidar Debenjak, Sigmund Freud, Georg Hegel, Martin Heidegger, Fredric Jameson, Jacques Lacan, Ernesto Laclau, Vladimir Lenin, Karl Marx, Maximilien Robespierre, Friedrich Schelling, Immanuel Kant, Friedrich Nietzsche, Walter Benjamin, Theodor W. Adorno, Søren Kierkegaard Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLeague of Communists of Slovenia, Liberal Democracy of Slovenia Edit this on Wikidata
MudiadHegelianism, Marcsiaeth, Lacanianism, Ljubljana school of psychoanalysis, Freudo-Marxism Edit this on Wikidata
PriodRenata Salecl, Jela Krečič Edit this on Wikidata
Gwobr/auLlysgennad Gwyddoniaeth Gweriniaeth Slofenia, Gold Medal of the Círculo de Bellas Artes Edit this on Wikidata

Athronydd a beirniad diwylliannol Slofenaidd yw Slavoj Žižek (ganwyd 21 Mawrth 1949).[1]

Trwy ei steil anarferol, erthyglau barn, ymddangosiadau ar deledu a'r we a'i lyfrau academaidd poblogaidd mae Žižek wedi ennill dilyniant eang a dylanwad rhyngwladol. Wedi'i labeli gan rhai fel Elvis y ddamcaniaeth ddiwylliannol[2] Mae wedi'i restri yn '100 prif feddyliwr y byd', a'i alw yn celebrity philosopher. [3] Mae'r International Journal of Žižek Studies, wedi'i sefydlu yn ymwneud a'i waith.[4]

Mae Žižek yn ystyried ei hun fel radical gwleidyddol ac cyflwyno dadleuon yn erbyn neo-rhyddfrydiaeth. Er weithiaf ei weithgaredd mewn prosiectau Rhyddfrydol, mae Žižek yn ymroddedig i'r delfryd comiwnyddol ac yn feirniadol o grwpiau a syniadau asgell de fel Cenedlaetholdeb, Ceidwadaeth a Rhyddfrydiaeth Glasurol yn Slofenia ac ar draws y byd.[5]

Ymhlith ei brif ddylanwadu mae Louis Althusser, G. K. Chesterton, Božidar Debenjak, Friedrich Engels, Sigmund Freud, G. W. F. Hegel, Martin Heidegger, Jacques Lacan, Ernesto Laclau, Karl Marx, Maximilien Robespierre a F. W. J. Schelling.

Mae Žižek yn cyflwyno ei ddadleuon mewn ffordd rymus, hwyliog, deniadol, cymhleth a throelliog.[6][7] Fel dywedodd un beirniad:

a dizzying array of wildly entertaining and often quite maddening rhetorical strategies are deployed in order to beguile, browbeat, dumbfound, dazzle, confuse, mislead, overwhelm, and generally subdue the reader into acceptance.[8]

Athroniaeth[golygu | golygu cod]

Žižek yn 2011

Mae gwaith a dadleuon Žižek yn anelu i fod yn brofoclyd ac i feddwl o'r newydd am ein hunain a'r byd. I Žižek mae athronydd yn fwy na rhywun sydd yn cynnig barn ond yn hytrach rhywun sydd yn ceisio ateb cwestiynau trwy greu damcaniaeth.[9] Mae Žižek yn aml yn dadlau bod athroniaeth benodol y tu ôl neu'n gyrru polisïau economaidd neu hyd yn oed ffilmiau neu ganeuon sydd yn ymddangos yn adloniant pur, er enghraifft "Gangnam Style"[10] neu Kung Fu Panda.[10]

I Žižek mae penderfyniadau gwleidyddol wedi'u troi i ymddangos yn anwleidyddol a'u derbyn fel canlyniadau naturiol. Er enghraifft, mae penderfyniad polisïau dadleuol (fel lleihau gwariant ar les cymdeithasol) yn cael eu cyflwyno i ymddangos yn wrthrychol ac yn anorfod. Neu er bod llywodraethau yn datgan eu bod o blaid i fwy o'r boblogaeth cymryd rhan mewn democratiaeth, mae'r penderfyniadau pwysig yn dal i'w gwneud er fudd cyfalaf. Mae Žižek yn gefnogol i brosesau annibyniaeth gwledydd bychain yn Ewrop fel Gwlad y Basg [11]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Fe Ddaeth Žižek i sylw cyhoeddus fel colofnydd i'r cylchgrawn amgen i bobl ifanc Mladina, a oedd yn feirniadol o lywodraeth Titoaidd, Iwgoslafia. Roedd yn aelod o Blaid Gomiwnyddol Slofenia tan Hydref 1988, pan ymddiswyddodd gyda 32 gwybodusion cyhoeddus eraill mewn protest yn erbyn achos llys yn erbyn pedwar newyddiadurwr wedi'u chyhuddo o dorri cyfrinachedd milwrol.[12] Rhwng 1988 a 1990, roedd yn weithgar mewn mudiadau yn brwydro dros fwy o ddemocratiaeth i Slofenia.[13] Safodd fel ymgeisydd yn yr etholiad agored cyntaf am arlywydd Slofenia yn 1990 ar ran Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Slofenia.

Roedd Žižek yn briod i Renata Salecl,[14] athronydd arall o Slofenia, ac i fodel ffasiwn Analia Hounie.[15]

Yn 2013 fe briododd y newyddiadurwraig Slofenaid Jela Krečič, yn Rhagfyr 2013.[16]

Mae Žižek yn siaradwr rhugl o Slofeneg, Saesneg, Serbo-Croateg a hefyd rhywfaint o Almaeneg ac Eidaleg.


Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rôl
2004 The Reality of the Virtual Awdur sgript, darlithydd (fel ei hun)
2005 Zizek! Darlithydd (fel ei hun)
2006 The Pervert's Guide to Cinema Awdur sgript, Cyflwynydd
2012 The Pervert's Guide to Ideology Awdur sgript, Cyflwynydd

Cyflwyniadau i Žižek[golygu | golygu cod]

  • Kelsey Wood, Zizek: A Reader's Guide (Wiley-Blackwell: 2012).
  • Warren Breckman, Adventures of the Symbolic: Postmarxism and Radical Democracy (New York: Columbia University Press, 2013)
  • Sean Sheehan, Žižek: A Guide for the Perplexed (London: Continuum, 2012).
  • Christopher Hanlon, "Psychoanalysis and the Post-Political: An Interview with Slavoj Žižek." New Literary History 32 (Winter, 2001).
  • Tony Myers, Slavoj Žižek (London: Routledge, 2003).
  • Sarah Kay, Žižek: A Critical Introduction (Cambridge: Polity, 2003).
  • Ian Parker, Slavoj Žižek: A Critical Introduction (London: Pluto Press, 2004).
  • Matthew Sharpe, Slavoj Žižek, a little piece of the Real (London: Ashgate, 2004).
  • Rex Butler, "Slavoj Žižek: Live Theory" (London: Continuum, 2005).
  • Jodi Dean, Žižek's Politics (London: Routledge, 2006).
  • Walter A. Davis, "Slavoj Zizek, or the Jouissance of the Abstract Hegelian" in Death's Dream Kingdom (London: Pluto Press, 2006).
  • Adam Kotsko, Žižek and Theology (New York: T & T Clark, 2008).
  • Marcus Pound, Žižek: A (Very) Critical Introduction (Interventions) (Grand Rapids: Eerdmans, 2008).
  • Adrian Johnston, Žižek's Ontology: A Transcendental Materialist Theory of Subjectivity (Evanston: Northwestern University Press, 2008).
  • Adrian Johnston, Badiou, Žižek, and Political Transformations: The Cadence of Change (Evanston, Northwestern University Press, 2009).
  • Dominik Finkelde, Slavoj Žižek zwischen Lacan und Hegel. Politische Philosophie, Metapsychologie, Ethik (Wien: Turia + Kant, 2009).
  • Paul A. Taylor, Žižek And The Media (Cambridge: Polity Press, 2010).
  • Raoul Moati (ed.), Autour de S., Žižek, Psychanalyse, Marxisme, Idéalisme Allemand, Paris, PUF, "Actuel Marx", 2010
  • Fabio Vighi, On Žižek's Dialectics: Surplus, Subtraction, Sublimation, (Continuum, 2010).
  • Matthew Sharpe and Geoff Boucher "Zizek's and Politics: A Critical Introduction" (Edinburgh University Press, 2010)
  • Chris McMillan, "Žižek and Communist Strategy: On the Disavowed Foundations of Global Capitalism" (Edinburgh University Press, 2012)
  • Matthew Flisfeder, The Symbolic, The Sublime, and Slavoj Žižek's Theory of Film (New York: Palgrave Macmillan, 2012).
  • Matthew Flisfeder and Louis-Paul Willis (eds.), Žižek and Media Studies: A Reader (New York: Palgrave Macmillan, 2014).

Gweler hefyd International Journal of Žižek Studies.[17]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) O'Hagan, Sean (13 Ionawr 2013). Slavoj Žižek: a philosopher to sing about. The Guardian. Adalwyd ar 22 Ebrill 2013.
  2. "International Journal of Žižek Studies, home page". Cyrchwyd December 27, 2011.
  3. "The FP Top 100 Global Thinkers". Foreign Policy. 26 November 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-28. Cyrchwyd 28 November 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. http://zizekstudies.org/index.php/ijzs/about
  5. Interview with Žižek - part two, Delo, 2 March 2013.
  6. See e.g. David Bordwell, "Slavoj Žižek: Say Anything", DavidBordwell.net blog, April 2005.[1]; Philipp Oehmke, "Welcome to the Slavoj Zizek Show". Der Spiegel Online (International edition), 7 August 2010 [2]; Jonathan Rée, "Less Than Nothing by Slavoj Žižek – review. A march through Slavoj Žižek's 'masterwork'". The Guardian, 27 June 2012.[3]
  7. Harpham "Doing the Impossible: Slavoj Žižek and the End of Knowledge" Archifwyd 2012-03-30 yn y Peiriant Wayback.
  8. O'Neill, "The Last Analysis of Slavoj Žižek"
  9. Butler, Rex and Scott Stephens. "Play Fuckin' Loud: Žižek Versus the Left." The Symptom, Online Journal for Lacan.com.
  10. 10.0 10.1 http://www.openculture.com/2013/01/slavoj_zizek_demystifies_the_gangnam_style_phenomenon.html
  11. Žižek: "The force of universalism is in you Basques, not in the Spanish state", Interview in ARGIA (27 June 2010)
  12. "Skupinski protestni izstop iz ZKS". Slovenska Pomlad. 1998-10-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-10-03. Cyrchwyd 2014-07-05.
  13. Odbor za varstvo ?lovekovih pravic. Slovenska Pomlad. 1998-06-03. http://www.slovenskapomlad.si/1?id=31&aofs=3. Adalwyd 2014-07-05Nodyn:Inconsistent citations
  14. "Interview with Renata Salecl". Mladina. 2010-07-29. Cyrchwyd 2012-12-04.
  15. "Philosopher and Beauty". Delo. 2005-03-29. Cyrchwyd 2012-12-04.
  16. "Žižka vzela Jela z Dela". Delo. 2013-07-01. Cyrchwyd 2013-07-03. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  17. http://www.zizekstudies.org/. Missing or empty |title= (help)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]