Ymwybyddiaeth o ddosbarth

Oddi ar Wicipedia

Ymwybyddiaeth o safle yn y gyfundrefn ddosbarthiadau economaidd-gymdeithasol yw ymwybyddiaeth o ddosbarth. Mae'n agwedd o athroniaeth Farcsaidd a damcaniaethau adain-chwith eraill, sy'n ymdrin â'r berthynas rhwng ymwybod ac hunaniaeth yn nhermau statws economaidd-gymdeithasol a brwydr y dosbarthiadau. Mae meysydd cymdeithaseg, economeg, ac athroniaeth wleidyddol ehangach hefyd wedi ymdrin â'r cysyniad hwn.

Syniadaeth Marx[golygu | golygu cod]

Ni luniodd Karl Marx ddamcaniaeth gynhwysfawr o ymwybyddiaeth o ddosbarth, er iddo osod sylfeini'r cysyniad ar gyfer athronwyr Marcsaidd i ddod. Yn ôl Marx, mae pob dosbarth cymdeithasol yn anochel ddatblygu hunaniaeth, diddordebau, a bydolwg ei hun. Felly, mae'r unigolyn yn meddu ar ymwybyddiaeth o'i ddosbarth wrth iddo fagu dealltwriaeth o'i berthynas yn y dosbarth hwnnw, diddordebau economaidd a chymdeithasol ei ddosbarth, a phwy ydy'r gelyn yn y frwydr naturiol rhwng gwahanol haenau cymdeithas. Amlygir yr ymwybyddiaeth hon gan deimlad o undod a chydsafiad, ac aelodau'r dosbarth yn ffurfio mudiadau a sefydliadau gwleidyddol ar sail eu hunaniaeth ddosbarth.[1]

Yn ôl tybiaeth Marx, mae ymwybyddiaeth o ddosbarth yn datblygu mwy neu lai yn ddigymell o ganlyniad i wrthdaro'r dosbarthiadau. Yn y broses hon, try hunaniaeth ddosbarth o fod yn oddefedd i fod yn ffenomen effro a gweithredol. Rhagdybiodd felly y byddai'r proletariat yn cynyddu'n raddol ac yn trefnu ei hunan yn nhermau'i ymwybyddiaeth o ddosbarth, yn erbyn y fwrdeisiaeth, ac wedyn yn arwain y chwyldro i ddymchwel y gyfundrefn gyfalafol.[1]

Addasiadau yn nechrau'r 20fed ganrif[golygu | golygu cod]

Marx oedd un o feddylwyr pwysicaf y 19g a chafodd ei ddamcaniaethau ddylanwad eang ar wleidyddiaeth ac economeg ar draws y byd yn yr 20g. Anghytunodd sawl sosialydd yn nechrau'r 20g, gan gynnwys Karl Kautsky a Vladimir Lenin, â dadansoddiad Marx ynglŷn â sut i fagu ymwybyddiaeth ymhlith y dosbarth gweithiol. Dadleuai'r safbwynt Leninaidd dros yr angen i ddwyn ymwybyddiaeth i'r gweithwyr o'r tu allan, hynny yw gan ddeallusion sosialaidd neu bleidiau ar flaen y gad, er mwyn addysgu a chynhyrfu'r proletariat. Os gadewir y proletariat i drefnu ei hunan, credai byddai'r dosbarth hwnnw yn llithro i dir yr undebau llafur diwygiadol ac yn methu symud at chwyldro sosialaidd.[1] Ar y llaw arall, mynnai natur ddigymell ymwybyddiaeth y dosbarth gweithiol gan Rosa Luxemburg, a ddadleuodd bod cyd-ymdrechion a brwydrau'r gweithwyr, yn enwedig streiciau torfol, yn ennyn yr ymwybyddiaeth hon.[2]

Yn ei waith Marxismus und Philosophie (1923), dadleuai Karl Korsch bod ideoleg a gwleidyddiaeth yn gallu siapio cysylltiadau grym yn ogystal ag amodau economaidd, a bod yn rhaid i ymwybyddiaeth o ddosbarth adlewyrchu hynny. Rhoddai ideoleg yn ganolog i ymwybyddiaeth o ddosbarth gan waith Antonio Gramsci a'i ddamcaniaeth hegemoni. Credai Gramsci bod angen deallusion a phleidiau ar y dosbarth gweithiol i ymgymryd ag ymwybyddiaeth y dosbarth a'i siapio er budd ei aelodau.[2]

Y gwaith arloesol o ran ymwybyddiaeth o ddosbarth oedd astudiaethau'r Marcsydd o Hwngari György Lukács, a gyhoeddwyd ar ffurf y llyfr Almaeneg Geschichte und Klassenbewußtsein ("Hanes ac Ymwybyddiaeth o Ddosbarth") yn 1923. Pwysleisiodd y wahaniaeth rhwng ymwybyddiaeth o ddosbarth a syniadau a theimladau'r unigolion sydd yn aelodau'r dosbarth dan sylw. Dadleuodd bod ymwybyddiaeth o ddosbarth yn cynnwys yr hyn y byddai'r dosbarth yn ei deimlo os oedd ei aelodau yn deall eu gwir safle yn y gymdeithas. Mae'n bosib felly i'r dosbarth gweithiol, er enghraifft, fod yn hollol anymwybodol os nad yw'r gweithwyr yn effro i'w statws israddedig. Yn hytrach, byddai'r dosbarth yn meddu ar ffug-ymwybyddiaeth, sef dealltwriaeth gyfeiliornus o'i hunaniaeth a'i ddiddordebau.[3]

Syniadaeth Farcsaidd ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Ers canol yr 20g, mae dadansoddiadau'r Marcswyr o ymwybyddiaeth o ddosbarth wedi rhoi'r gorau i safbwyntiau sy'n ystyried penderfynyddion economaidd a sefydliadol yn unig. Pwysleisiwyd cymhlethdod yr ymwybyddiaeth weithiol gan hanesyddion cymdeithasol, yn eu plith E. P. Thompson ac Eric Hobsbawm, a bod y rheiny'n aml yn canolbwyntio ar gysyniadau cyn-gyfalafol megis cyfiawnder neu hunaniaethau eraill. Dylanwadwyd ar waith Ysgol Frankfurt, yn enwedig Herbert Marcuse, gan seicdreiddiad, ac mae'r meddylwyr hynny yn gweld prynwriaeth yn disodli radicaliaeth y mudiad llafur a'r gyfundrefn gyfalafol yn cyfethol y dosbarth gweithiol felly drwy ehangu'r dosbarth canol. Ymdriniai Jean-Paul Sartre a Wilhelm Reich ag ymddieithriad y natur ddynol, damcaniaeth sy'n disodli ymwybyddiaeth o ddosbarth yn eu gweithiau hwy. Adlewyrchir y tueddiadau deallusol hyn yn y byd gwleidyddol. Ers y 1960au, mae ymwybyddiaeth o ddosbarth wedi colli tir yng ngwleidyddiaeth yr adain chwith i fudiadau cymdeithasol sy'n cynrychioli hunaniaethau eraill, gan gynnwys menywod, pobl LHDT, myfyrwyr, a phobloedd frodorol, ac achosion megis amgylcheddaeth a'r mudiad gwrth-globaleiddio.[2]

Cymdeithaseg[golygu | golygu cod]

Yn ystod oes glasurol cymdeithaseg yn hanner cyntaf yr 20g, dechreuodd ysgolheigion nad oeddynt yn Farcswyr ymdrin ag ymwybyddiaeth o ddosbarth drwy ddamcaniaethau a dulliau eraill. Ymdrechodd Karl Mannheim ddeall ymdeimladau a phrofiadau'r gwahanol ddosbarthiadau heb ddyrchafu'r un ohonynt. Dadleuodd Mannheim bod dosbarth cymdeithasol yn gosod fframwaith i'r unigolyn ddeall y byd, a bod hynny'n wir pa bynnag haen o gymdeithas y mae'r unigolyn yn perthyn iddi. Mae profiad yr uchelwr cyn ddilysed â phrofiad y llafurwr, a'r ddau ohonynt wedi ymddieithrio o ran ideoleg. Y datrysiad felly, yn ôl Mannheim, yw cyd-ddealltwriaeth rhwng y gwahanol ddosbarthiadau, ac nid rhagor o gydymddibyniaeth y tu mewn i ddosbarthiadau.[3]

Yn ei waith Consciousness and Action Among the Western Working Class (1981), ymdriniai'r cymdeithasegydd Michael Mann â gwahanol ddimensiynau o ymwybyddiaeth o ddosbarth: hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn at ddosbarth, gelyniaeth at ddosbarthiadau eraill, cyfangorff o ddosbarthiadau (hynny yw, bod dosbarthiadau yn cwmpasu cymdeithas gyfan), a gweledigaeth y gymdeithas ddiddosbarth. Mae'r rhain yn ystyried y profiadau sydd yn ysgogi'r ymdeimlad o berthyn at ddosbarth, megis ecsbloetiaeth economaidd.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), t. 81.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Franco Barchiesi, "Class consciousness", International Encyclopedia of the Social Sciences (Thomson Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopeia.com ar 9 Mawrth 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Class consciousness. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Mawrth 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • István Mészaros (gol.), Aspects of History and Class Consciousness (Llundain: Routledge and Kegan Paul, 1971).