Zygmunt Bauman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Zygmunt Bauman
Zigmunt Bauman na 20 Forumi vydavciv.jpg
Ganwyd 19 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Poznań Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata (91 oed)
Leeds Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gwlad Pwyl, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth athronydd, cymdeithasegydd, academydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddol Polish United Workers' Party Edit this on Wikidata
Priod Janina Bauman Edit this on Wikidata
Plant Irena Bauman Edit this on Wikidata
Perthnasau Michael Sfard Edit this on Wikidata
Gwobr/au Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Medal y 10fed canmlwyddiant pobol y Pwyl, Gwobr Theodor W. Adorno, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Croes am Ddewrder, European Amalfi Prize for Sociology and Social Sciences, honorary doctor of the University of Gothenburg, Q16156933 Edit this on Wikidata

Cymdeithasegydd Pwylaidd oedd Zygmunt Bauman (19 Tachwedd 19259 Ionawr 2017). Mae ei waith yn ymwneud â modernedd, prynwriaeth, globaleiddio, ac effeithiau newidiadau economaidd a chymdeithasol ar bobl dlawd.

Ganed yn Poznań, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl. Yn sgil goresgyniad yr Almaenwyr yn 1939, ffoes Bauman a'i deulu i'r Undeb Sofietaidd ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe wasanaethodd mewn llu Pwylaidd dan reolaeth y Fyddin Goch. Yn y cyfnod hwn bu Bauman yn aelod o grŵp Stalinaidd. Dychwelodd i Wlad Pwyl wedi diwedd y rhyfel, ac yn y 1950au fe astudiodd gymdeithaseg ac athroniaeth ym Mhrifysgol Warsaw. Penodwyd yn athro cymdeithaseg yn Warsaw. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo o ganlyniad i ymgyrch wrth-Semitaidd yn 1968 ac ymfudodd i Israel, ac addysgodd am gyfnod byw yn Tel Aviv ac yn Haifa. Yn 1971 symudodd Bauman i Loegr i gymryd swydd ym Mhrifysgol Leeds. Ymddeolodd o Brifysgol Leeds yn 1991.

Gwobrwywyd iddo Wobr Amalfi yn 1989, Gwobr Theodor W. Adorno yn 1998, a Gwobr Tywysog Astwrias am gyfathrebu a'r dyniaethau yn 2010.[1] Bu farw yn Leeds yn 91 oed.

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Culture as Praxis (1973).
  • Modernity and the Holocaust (1989).
  • Modernity and Ambivalence (1991).
  • Postmodernity and Its Discontents (1997).
  • Globalization: The Human Consequences (1998).
  • Liquid Modernity (2000).
  • The Individualized Society (2001).
  • Wasted Lives: Modernity and Its Outcasts (2003).
  • Strangers at Our Door (2016).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Zygmunt Bauman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2020.