Gwobrau Tywysoges Asturias
Gwedd
| Enghraifft o: | grŵp o wobrau |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1980 |
| Lleoliad | Uviéu |
| Yn cynnwys | Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Princess of Asturias Award for Communications and Humanities, Gwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Gwobr Tywysoges Asturias am Wyddoniaeth Gymdeithasol, Gwobr Tywysoges Asturias am Heddwch, Gwobr Tywysoges Asturias am Gydweithredu Rhyngwladol, Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Chwaraeon Tywysoges Astwrias, Exemplary Town of Asturias Award |
| Enw brodorol | Premios Princesa de Asturias |
| Gwefan | http://www.fpa.es |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/01qzhf |
Cyfres o wobrau a roddir yn flynyddol yn Sbaen yw Gwobrau Tywysoges Asturias (Sbaeneg: Premios Princesa de Asturias, Astwrieg: Premios Princesa d'Asturies), a adwaenir gynt 2014 fel Gwobrau Tywysog Asturias (Sbaeneg: Premios Príncipe de Asturias). Rhoddir y gwobrau i unigolion, endidau neu sefydliadau o bob cwr o'r byd sydd wedi cyflawni nodedig yn y gwyddorau, y celfyddydau a materion cyhoeddus.
Sefydlwyd y wobr gan Felipe, Tywysog Asturias, etifedd coron Sbaen ar y pryd. Cynhelir y seremoni wobrwyo yn Theatr Campoamor yn Uviéu, prifddinas Asturias. Ar ôl i'r Tywysog Felipe ddod yn Frenin Sbaen (fel Felipe VI) yn 2014, cafodd y gwobrau eu hailenwi ar ôl yr etifeddes newydd i'r orsedd, sef Leonor, Tywysoges Asturias (ganwyd 2005).
Dolennau allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Swyddogol