Antonio Gramsci
Antonio Gramsci | |
---|---|
![]() | |
Ynganiad |
It-Antonio Gramsci.ogg ![]() |
Ganwyd |
22 Ionawr 1891 ![]() Ales, Sardinia ![]() |
Bu farw |
27 Ebrill 1937 ![]() Achos: gwaedlif ar yr ymennydd ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Brenhiniaeth yr Eidal ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
athronydd, gwleidydd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, economegydd, beirniad llenyddol, hanesydd, cymdeithasegydd ![]() |
Swydd |
aelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Gomiwnyddol yr Eidal ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Viareggio ![]() |
Athronydd, llenor, gwleidydd, a damcaniaethwr gwleidyddol o Eidalwr oedd Antonio Gramsci (IPA: [ˈɡramʃi]) (22 Ionawr 1891 – 27 Ebrill 1937), ac un o gydsefydlwyr Plaid Gomiwnyddol yr Eidal yn 1921. Carcharwyd ef gan Mussolini yn 1926 a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes dan glo. Yn 1929 dechreuodd ysgrifennu ei lyfrau nodiadau yn y ddalfa, y rheiny nas cyhoeddid tan y 1950au dan y teitl Quaderni del carcere. Ynddynt traethodai ei holl syniadaeth wleidyddol ac economaidd, gan gynnwys ei ddamcaniaeth o hegemoni a'i gred bod angen addysg radicalaidd ar y dosbarth gweithiol i berswadio iddynt ymwrthod â chyfalafiaeth a phrynwriaeth. Rhyddhawyd ef yn 1935 mewn iechyd gwael, a bu farw ymhen dwy flynedd. Yn ail hanner yr 20g, dylanwadodd ei waith yn gryf ar yr adain chwith gwrth-Stalinaidd yn Ewrop.