André Gunder Frank
| André Gunder Frank | |
|---|---|
| Ganwyd | 24 Chwefror 1929 Berlin |
| Bu farw | 23 Ebrill 2005 Dinas Lwcsembwrg |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
| Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | economegydd, ysgrifennwr, cymdeithasegydd, academydd, hanesydd, gweithredydd gwleidyddol |
| Cyflogwr | |
| Tad | Leonhard Frank |
| Mam | Elena Frank |
| Gwobr/au | Bentley Book Prize |
| Gwefan | http://rrojasdatabank.info/agfrank/ |
Economegydd a chymdeithasegydd Almaenig oedd André Gunder Frank (24 Chwefror 1929 – 23 Ebrill 2005).
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganed Andreas Frank ym Merlin. Nofelydd a heddychwr oedd ei dad. Fe'i danfonwyd i ysgol breswyl yn y Swistir yn 4 oed i osgoi gormes yn yr Almaen Natsïaidd. Aeth i'r Unol Daleithiau yn 1941 i ymuno â'i rieni yn Hollywood, Los Angeles, a mynychodd yr uwch-ysgol yno. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Ann Arbor, Michigan. Cafodd ei wawdio yn yr ysgol am fod yn araf, a rhoddwyd yr enw "Gunder" iddo fel cyfeiriad at y rhedwr Swedaidd Gunder Hägg.[1]
Astudiodd economeg yng Ngholeg Swarthmore, Pennsylvania, a derbyniodd ei radd yno yn 1950. Mabwysiadodd daliadau Keynesaidd yn ystod ei gyfnod israddedig. Aeth i Brifysgol Chicago i gyflawni ei ddoethuriaeth, ac erbyn iddo orffen ei astudiaethau yn 1957 fe wrthwynebai syniadaeth ei diwtor, yr arianyddwr Milton Friedman. Trodd Frank yn erbyn theorïau Americanaidd ynghylch datblygiad economaidd, a dadleuodd o blaid gwella cydraddoldeb cymdeithasol a gwleidyddol cyn ennill effeithlonrwydd economaidd.[1]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Bu'n briod teirgwaith. Bu farw o ganser yn 76 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Barry K. Gills, "Andre Gunder Frank", The Guardian (4 Mai 2005). Adalwyd ar 18 Ionawr 2019.
- Genedigaethau 1929
- Marwolaethau 2005
- Cymdeithasegwyr o'r Almaen
- Cymdeithasegwyr o'r Unol Daleithiau
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Chicago
- Economegwyr Iddewig o'r Almaen
- Economegwyr Iddewig o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned ym Merlin
- Pobl fu farw yn Lwcsembwrg
- Pobl fu farw o ganser
- Ymfudwyr o'r Almaen i'r Unol Daleithiau
- Ysgolheigion yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Ysgolheigion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgolheigion Saesneg o'r Almaen
- Ysgolheigion Saesneg o'r Unol Daleithiau