Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol

Oddi ar Wicipedia
Damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathdamcaniaeth Edit this on Wikidata

Mae damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn ceisio gosod fframwaith cysyniadol er mwyn dadansoddi cysylltiadau rhyngwladol.

Delfrydiaeth[golygu | golygu cod]

Datblygodd faes cysylltiadau rhyngwladol mewn adlach i'r Rhyfel Byd Cyntaf. Un o ysbrydoliaethau'r ddisgyblaeth newydd oedd syniadaeth Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, am y byd rhyddfrydol a ddaw. Danfonodd David Davies a'i chwiorydd lythyr at Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn cynnig arian er cof am y myfyrwyr fu farw i sefydlu cadair er astudiaethau'r pynciau hynny – gwleidyddiaeth, y gyfraith, moeseg, economeg – sydd yn ceisio datrys gwrthdaro rhyngwladol. Sefydlwyd Cadair Woodrow Wilson ac Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth ym 1919. Ysgrifennai'r hanesydd C. K. Webster, yr ail athro i gymryd y Gadair, bod y Rhyfel Mawr "wedi gwanhau seiliau'r drefn ryngwladol cymaint, ac wedi newid ein cysyniadau o gysylltiadau rhyngwladol mor ddidrugaredd, fel mae'n rhaid ailfwrw ein syniadau".

Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, rhagolwg gobeithiol o heddwch oedd y farn gyffredin gan ysgolheigion yr egin ddisgyblaeth, a gafodd y ddamcaniaeth hon ei alw'n ddiweddarach yn ddefrydiaeth. Dadleuai'r delfrydwyr o blaid diwygiadau a sefydliadau i feithrin cydweithrediad a chyfeillgarwch rhwng gwladwriaethau. Cynghrair y Cenhedloedd oedd yr ymdrech amlycaf rhwng y rhyfeloedd i ymgynnull gwladwriaethau mewn sefydliad rhyngwladol. Gosodant seiliau damcaniaethol i'r polisïau hyn drwy gysyniadau megis harmoni diddordebau a'r heddwch democrataidd. Osgoi rhyfel oedd y prif amcan polisi tramor yn ôl y delfrydwyr, ac o ganlyniad buont yn argymell anymyrraeth a dyhuddiad yn wyneb ymlediad tiriogaethol a thwf ffasgaeth yn Ewrop.

Realaeth[golygu | golygu cod]

Wrth i gysylltiadau rhwng gwledydd Ewrop waethygu yn 1930au, trodd ambell ysgolhaig yn erbyn y farn gyffredin. Cafodd E. H. Carr, y pedwerydd i gymryd Cadair Woodrow Wilson yn Aberystwyth, ei siomi gan Gynghrair y Cenhedloedd. Yn ei lyfr The Twenty Years' Crisis (1939), a gyhoeddwyd ar wawr yr Ail Ryfel Byd, fe alwai'r delfrydwyr yn "iwtopwyr" a dadleuai taw Cytundeb Versailles oedd i feio am fethiant y drefn ryngwladol.

Wedi'r saith mlynedd o ryfela enbyd, cafodd y ddamcaniaeth ddelfryddol ei chwalu. Yn ogystal â The Twenty Years' Crisis, arloeswyd y ddamcaniaeth realaidd newydd gan Hans Morgenthau yn ei lyfr Politics Among Nations (1948). Siapwyd y ddamcaniaeth newydd gan astudiaethau ar hanes gwleidyddol a milwrol a chan yr amodau polisi newydd yn y byd wedi'r rhyfel. Cafodd yr harmoni diddordebau ei ddisgrifio fel rhith rhyddfrydol, a beirniadai'r ysgolheigion cynt am ddiystyru gwleidyddiaeth grym yng nghysylltiadau rhyngwladol. Er yr oedd y delfrydwyr yn ceisio cadw'r heddwch drwy ddyhuddiad, dadleuai'r realwyr taw methiant i gynnal y cydbwysedd grym oedd dyhuddiad ac felly yn gamgymeriad hirdymor.

Enillodd realaeth oruchafiaeth dros yr hen gonsensws rhyddfrydol, a chafodd ei syniadaeth ei atgyfnerthu gan sefyllfa'r Rhyfel Oer ac ymddangosiad y drefn ddeubegwn rhwng Unol Daleithiau America a'r Undeb Sofietaidd. Yn yr Unol Daleithiau yn enwedig, bu "Chwyldro Diplomyddol" gan ysgolheigion, cynghorwyr polisi, a diplomyddion oedd yn awyddus i lunio polisi tramor i adlewyrchu statws eu mamwlad fel uwchbwer. Ymhlith yr elît hwn oedd nifer o alltudion o Ganolbarth Ewrop: Arnold Wolfers, Klaus Knorr, Henry Kissinger, a Morgenthau ei hunan, rhai ohonynt yn Iddewon a wnaeth ffoi rhag y Natsïaidd. Pwysleisiant y traddodiadau gwleidyddol a chyfreithiol Americanaidd – ac eithrio'r elfen ynysol – mewn ymgais i bortreadu'r Unol Daleithiau yn rym moesol ar y llwyfan rhyngwladol.

Er yr oedd y mwyafrif yn cytuno bod angen meddylfryd realaidd, ymddangosodd sawl athrawiaeth polisi tramor yn cynnig gwahanol ffyrdd i roi'r fath ddamcaniaeth ar waith. Mewn achos effaith y dominos, dadleuodd rhai am gyfyngiant, hynny yw atal ymlediad comiwnyddiaeth, ac eraill am rollback, sef newid llywodraethau trwy rym milwrol neu weithredu cudd. O ran arfau niwclear, pwysleisiodd rhai athrawiaeth Cyd-ddinistr Sicr a chydfodolaeth heddychlon, tra yr oedd eraill yn mynnu dibynfentro ac agweddau pryfoclyd.

Neo-realaeth[golygu | golygu cod]

Sail yr hyn a elwir yn neo-reolaeth neu realaeth adeileddol yw Theory of International Politics (1979) gan Kenneth Waltz. Ymwrthodai â'r traddodiad realaidd clasurol gan hepgor y cyfeiriadau at natur ddynol a'r tybiaethau metaffisegol sydd yn nodweddu gwaith Morgenthau. Ceisiodd Waltz ail-osod y ddamcaniaeth realaidd ar sylfaen wyddonol, ac wrth graidd hon oedd damcaniaeth systemig yn hytrach na rhydwythiaeth, gan ddadlau taw anllywodraeth y system ryngwladol sydd yn arwain at ddobarthiad grym. Testun sylw neo-reolaeth felly yw'r holl system o gysylltiadau rhyngwladol, ac nid "unedau" o gategoreiddio (er enghraifft, gwladwriaethau awtocrataidd a gwladwriaethau democrataidd).

Rhyddfrydiaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r ddamcaniaeth ryddfrydol, neu ryngwladoldeb rhyddfrydol, yn tynnu ar athroniaethau gwleidyddol ac astudiaethau economaidd y 18g a'r 19g. Yr athronydd John Locke oedd arloeswr rhyddfrydiaeth glasurol, a chyfranodd at syniadau'r cyfamod cymdeithasol, gweriniaetholdeb, ac hawliau naturiol. Amlinellir y gobaith am "heddwch parhaol" gan Immanuel Kant yn ei draethawd Zum ewigen Frieden (1795), sydd yn argymell cyfansoddiadau gweriniaethol a'r angen am gydsyniad y dinasyddion cyn i unrhyw wlad mynd i ryfel. Daw ysbrydoliaeth y rhyddfrydwyr mewn materion economaidd gan yr economegwyr gwleidyddol, yn bennaf Adam Smith a Richard Cobden. Yn ei gampwaith The Wealth of Nations (1776), disgrifia Smith y "llaw anweledig" sydd yn gyrru'r farchnad rydd, a dadleua nad yw bywyd rhyngwladol yn "sero-swm", hynny yw nid yw enillion un dyn, cwmni, neu wlad o reidrwydd yn achosi colled i ddyn, cwmni, neu wlad arall. Gwleidydd a dyn busnes oedd Cobden, a hyrwyddai masnach rydd a chysylltiadau gonest rhwng gwledydd y byd i hybu diddordebau cyffredin ac heddwch.

Nid yw pob damcaniaeth rhyddfrydol ar gysylltiadau rhyngwladol yn gytûn, ond maent i gyd yn hyderu ym mhosibiliadau "Cynnydd". Mae rhyddfrydwyr yn rhoi sylw i sawl haen o gymdeithas. Pwysleisir gallu'r unigolyn i wella'i wladwriaeth, drwy reswm a moesoldeb. Yn ôl y ddamcaniaeth ryddfrydol, mae'r wladwriaeth yn bodoli er budd yr unigolyn, i sicrhau ei hawliau a'i ryddid. Nid yw'r wladwriaeth ryddfrydol yn nod ynddi'i hun, ond yn fodd o ennill heddwch a democratiaeth, yr un syniad o'r heddwch democrataidd a arddelai gan y delfrydwyr. Yn ogystal, mae'r drefn ryngwladol yn agwedd hollbwysig o heddychu'r byd, drwy gynnig sefydliadau rhynglywodraethol ac uwchgenedlaethol a'r gyfraith ryngwladol i ddatrys anghydfodau rhwng gwladwriaethau ac i osgoi rhyfel.

Yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, bu cryn dipyn o orgyffwrdd rhwng syniadau'r delfrydwyr a'r hyn a elwir yn rhyngwladoldeb rhyddfrydol. Bu meddylfryd Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn manylu ar y dadleuon rhyddfrydol drwy ei bolisi tramor a elwir yn Wilsoniaeth. Gwelsai Wilson yr hen ddiplomyddiaeth yn seiliedig ar Realpolitik awtocrataidd ac ymrysonau'r brenhiniaethau, a'r fath systemau oedd yn gyfrifol am achosi rhyfel. Dadleuai taw democratiaeth a chydsyniad y bobl oedd y ffordd ymlaen i sicrhau heddwch. Efe oedd prif arweinydd Cynghrair y Cenhedloedd, er i Senedd yr Unol Daleithiau wrthod i'r wlad honno ymuno â'r sefydliad. Nod Wilson oedd i'r Cynghrair magu trefn ddiplomyddol newydd o gyd-ddiogelwch, gan roi'r gorau i'r hen gynghreiriau milwrol a oedd yn sbarduno rasys arfau. Y brif broblem a wynebai'r Cynghrair oedd yr angen am aelodaeth gan bob un wladwriaeth ar draws y byd, er iddo wahardd ambell wlad gan gynnwys yr Almaen a'r Undeb Sofietaidd rhag ymuno. Hefyd bu'n dibynnu ar rym milwrol i rwystro ac i gosbi'r gwladwriaethau oedd yn aflonyddu'r drefn, ond methodd y Cynghrair i atal goresgyniad Abysinia gan yr Eidal yn 1935.

Neo-ryddfrydiaeth[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd neo-ryddfrydiaeth neu sefydliadaeth neo-ryddfrydol yn y 1980au mewn ymateb i neo-realaeth. Gelwir y ddadl academaidd rhwng y neo-ryddfrydwyr a'r neo-realwyr yn y ddadl neo-neo, a serch hynny mae consensws ynglŷn â nifer o agweddau'r ddwy ddamcaniaeth hon ac mae ysgolheigion yn aml yn defnyddio'r naill a'r llall i ddehongli gwahanol bynciau. Er iddi ymsefydlu yn groes i neo-realaeth, yn bennaf drwy anghytuno â damcaniaeth Kenneth Waltz ynghylch cydweithio dan anllywodraeth yn y system ryngwladol, mabwysiadwyd dulliau a nifer o dybiaethau Waltz gan y neo-ryddfrydwyr. Dywed yn aml bod neo-ryddfrydiaeth yn canolbwyntio ar economi wleidyddol ryngwladol, gwleidyddiaeth amgylcheddol fyd-eang, ac hawliau dynol, tra bo neo-realaeth yn ymdrin yn bennaf â diogelwch cenedlaethol a rhyngwladol a materion milwrol.

Yr Ysgol Seisnig[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd damcaniaeth "yr Ysgol Seisnig" yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE) yn y 1950au, a daw'r enw o'r ffaith roedd nifer o'i phrif ffigurau, er nad oeddent i gyd yn Saeson, yn gweithio yn Lloegr, yn enwedig yr LSE a phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[1] Ei helfen nodweddiadol yw cysyniad y gymdeithas ryngwladol.

Tynna'r Ysgol Seisnig ar resymoliaeth, un o'r tri thraddodiad a ddisgrifir gan Martin Wight yn International Theory: The Three Traditions (1990), ynghyd â realaeth a chwyldroadaeth. Hugo Grotius yw'r meddyliwr a gydnabyddir yn lladmerydd y rhesymolwyr, a'i waith De Jure Belli ac Pacis (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") oedd yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Gweledigaeth yr Ysgol Seisnig felly yw trefn gyfreithiol ryngwladol sydd yn cynnwys pob un wladwriaeth. Un o hoelion wyth yr Ysgol Seisnig yw Hedley Bull, a ddadansoddai anllywodraeth y system ryngwladol yn ei gampwaith The Anarchical Society (1977). Nod y gymdeithas ryngwladol yw adnabod diddordebau cyffredin a gwerthoedd cyfanfydol y ddynolryw, gosod rheolau ac egwyddorion y drefn ryngwladol, a chynnal sefydliadau rhyngwladol. Mae Bull yn ystyried rhyfel ei hun yn sefydliad rhyngwladol, wedi ei ffurfio i ddatrys gwahaniaethau grym ac i ennill diddordebau, ac yn dystoliaeth o'r gymdeithas ryngwladol.

Mae rhai wedi disgrifio'r Ysgol Seisnig yn gyfuniad o syniadau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr. Yn debyg i realaeth, mae syniad y gymdeithas ryngwladol yn gosod y wladwriaeth yn brif weithredydd, ac yn cydnabod taw realiti grym sydd yn pennu diddordebau'r wlad. O ganlyniad, mae'r Ysgol Seisnig yn derbyn gwahaniaethau grym rhwng gwledydd, a phosibiliad rhyfel rhyngddynt. Mae'n rhannu sawl agwedd â'r ysgol ryddfrydol hefyd, yn bennaf y gobaith am leddfu'r anhrefn drwy'r gyfraith ryngwladol a diplomyddiaeth, a chyfuno rheolau er cyd-fodolaeth â'r cydbwysedd grym i greu drefn "gymdeithasol".

Marcsiaeth[golygu | golygu cod]

Antonio Gramsci

Gwrthodir safbwyntiau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr parthed gwrthdaro a chydweithrediad rhwng gwladwriaethau gan Farcswyr. Yn hytrach, canolbwyntir damcaniaeth Farcsaidd cysylltiadau rhyngwladol ar agweddau economaidd a materol, ar batrwm materoliaeth hanesyddol. Ystyrir y system fyd-eang yn gyfundrefn gyfalafol integreiddedig sydd yn tra-arglwyddiaethu ar bob agwedd o fywyd rhyngwladol, ac mae materion economaidd a dosbarth cymdeithasol yn trosgynnu popeth arall. Un o'r meddylwyr Marcsaidd a gafodd y mwyaf o ddylanwad ar y syniadaeth hon yw Antonio Gramsci, a bwysleisiai hegemoni yr ideoleg gyfalafol.

Adeileddaeth[golygu | golygu cod]

Daeth adeileddaeth yn boblogaidd yn sgil cwymp Mur Berlin a diwedd comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop,[2] oherwydd yr oedd hwn yn ddatblygiad na chafodd ei ragweld gan ddamcaniaethau eraill.[3]

Ymddangosai adeileddaeth yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn y 1980au, ac enillodd ei haeddiant yn sgil diwedd y Rhyfel Oer.[4] Daeth i herio'r ddadl ddeuol rhwng neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth a oedd yn nodi'r maes yn niwedd yr 20g.[5] Mae damcaniaethau adeileddol yn ymwneud â'r effeithiau sydd gan syniadau ar y strwythur ryngwladol, sut mae'r strwythur honno yn pennu diddordebau gwladwriaethau, a'r moddion mae gwladwriaethau a gweithredyddion anwladwriaethol yn cynnal at atgynhyrchu'r strwythurau.[6] Prif elfen adeileddaeth ydy'r gred taw syniadau dylanwadol, gwerthoedd cyfunol, diwylliant, ac hunaniaethau cymdeithasol sydd yn siapio hynt a helynt, trefn ac anhrefn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadleuir taw peth gwneud yw'r realiti ryngwladol, a bennir gan strwythurau cymdeithasol a gwybyddol sydd yn rhoi ystyr i'r byd materol.[7] Ymddangosodd y ddamcaniaeth yn sgil dadleuon ynghylch y dull gwyddonol ym maes cysylltiadau rhyngwladol a'r rhan sydd gan damcaniaethau wrth greu a siapio grym gwleidyddol rhyngwladol.[8] Dywed Emanuel Adler bod adeileddaeth yn meddu'r tir canol rhwng damcaniaethau rhesymolaidd a dehongliadol.[7]

Ôl-strwythuriaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brown, C. ac Ainley, K. Understanding International Relations (Palgrave Macmillan, 2009), t. 50.
  2. Stephen M. Walt, Foreign Policy, No. 110, Special Edition: Frontiers of Knowledge. (Spring, 1998), p.41: "The end of the Cold War played an important role in legitimizing constructivist t realism and liberalism failed to anticipate this event and had trouble explaining it.
  3. Hay, Colin (2002) Political Analysis: A Critical Introduction, Basingstoke: Palgrave, P. 198
  4. [1]
  5. Hopf, Ted, The Promise of Constructivism in International Relations Theory, International Security, Vol. 23, No. 1 (Summer, 1998), p.171
  6. Michael Barnett, "Social Constructivism" in The Globalisation of World Politics, Baylis, Smith and Owens, 4th ed, OUP, p.162
  7. 7.0 7.1 Alder, Emmanuel, Seizing the middle ground, European Journal of International Relations, Vol .3, 1997, p.319
  8. K.M. Ferike, International Relations Theories:Discipline and Diversity, Dunne, Kurki and Smith, OUP, p.167

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • S. Burchill et al., Theories of International Relations (Basingstoke: Palgrave, 2009).
  • T. Dunne, M. Kurki, a S. Smith (gol.), International Relations Theories: Discipline and Diversity (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2007).
  • M. Griffiths, S. Roach a M. Solomon, Fifty Key Thinkers in International Relations (Llundain: Routledge, 2008).