Richard Cobden

Oddi ar Wicipedia
Richard Cobden
Ffotograff o Richard Cobden yn y 1860au.
Ganwyd3 Mehefin 1804 Edit this on Wikidata
Heyshott Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ebrill 1865 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, economegydd, ysgrifennwr, person busnes, gwneuthurwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
PlantAnne Cobden-Sanderson, Ellen Melicent Cobden, Jane Cobden Edit this on Wikidata

Gwleidydd a dyn busnes Seisnig oedd Richard Cobden (3 Mehefin 18042 Ebrill 1865)[1] a fu'n un o'r prif ymgyrchwyr dros fasnach rydd yn y 19g.

Ganed ef ar fferm ger Midhurst, Sussex. Ffermwr bychan oedd ei dad, a fu farw pan yr oedd Richard yn lled ifanc. Aeth i ysgol breswyl cyn iddo weithio mewn warws ei ewythr yn Llundain. Ym 1828, cododd Richard Cobden fusnes calico gydag eraill o'i gydnabod, ac agorodd melin argraffu calico yn Swydd Gaerhirfryn ym 1831. Dechreuodd arddangos yn fuan ei fod yn teimlo diddordeb mewn cwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol. Gwnaeth lawer i sefydlu Ysgolion Brytanaidd ym Manceinion, ac yn y trefi cylchynol. Teithiodd lawer yn y gwledydd tramor, ac ehangodd hyn ei syniadau yn ddirfawr. Gwaith mawr ei oes oedd ei ymdrech i ddiddymu Deddfau'r Ŷd, ac yn yr hyn y cynorthwyid ef gydag eiddgarwch gan John Bright, gŵr a ddaeth wedi hynny, fel yntau, yn un o ddynion enwocaf ei oes. Yr oedd Cobden yn siaradwr argyhoeddiadol, a llwyddodd i gael dylanwad mawr ar luoedd o drigolion y wlad. Ym 1838–9, llwyddodd, gyda Bright ac eraill, i ffurfio'r Cynghrair Cenedlaethol er Diddymu Deddfau'r Ŷd, y gymdeithas wleidyddol fwyaf ei dylanwad a fu erioed yn y deyrnas.

Ym 1841, etholwyd Cobden yn aelod dros Stockport, ac ar gyfrif ei wybodaeth, ei synnwyr cryf, a'i ddiffuantrwydd, daeth ar unwaith yn ddyn pwysig yn Nhŷ'r Cyffredin. Ym 1846, coronwyd ei lafur â llwyddiant, trwy ddiddymiad Deddfau'r Ŷd, a bu Syr Robert Peel yn ddigon gonest i ddweud taw i ymdrech Cobden yr oeddid i briodoli eu diddymiad. Fel cydnabyddiaeth o'i lafur, cyflwynwyd tysteb o £80,000 iddo. Wedi torri ei gysylltiad â Stockport, bu yn cynrychioli Swydd Gorllewin Efrog, hyd 1857. Ym 1859, tra'r oedd efe yn Unol Daleithiau America, etholwyd ef dros Rochdale. Bu farw yn Llundain yn 60 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Richard Cobden. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2021.