Wilsoniaeth

Oddi ar Wicipedia

Safbwynt ideolegol ar bolisi tramor sy'n gysylltiedig â syniadau Woodrow Wilson, Arlywydd yr Unol Daleithiau o 1913 i 1921, yw Wilsoniaeth. Amlinellodd Wilson ei agwedd yn araith y Pedwar Pwynt ar Ddeg a draddododd i'r Gyngres ar 8 Ionawr 1918, gyda gobeithion am heddwch bydol yn y bôn. Mae Wilsoniaeth yn hybu hunanbenderfyniaeth i grwpiau ethnig, democratiaeth, y farchnad rydd, gwrth-imperialaeth, gwrth-ynysiaeth, a sefydliadau rhyngwladol. Roedd Wilson yn elfennol wrth sefydlu Cynghrair y Cenhedloedd, rhagflaenydd y Cenhedloedd Unedig, ond oherwydd i'r Gyngres gwrthod Cytundeb Versailles ni ymunodd yr Unol Daleithiau â'r Gynghrair.

Globe stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.