Materion rhyngwladol
Materion rhyngwladol | |
![]() | |
Amgylchedd |
Pwnc cyfoes yw mater rhyngwladol neu fater byd-eang sydd yn tynnu sylw'r rhai sydd yn weithredol o fewn cysylltiadau rhyngwladol yn ogystal â'r rhai sydd yn ei astudio, a hefyd yn galw am ddefnydd adnoddau o ryw ffurf gan weithredyddion.[1] Y deipoleg gyntaf i ddosbarthu materion gwleidyddol oedd yn nhermau mewnwladol neu ryngwladol, dull gwladwriaeth-ganolog oedd yn gydnaws â chydweddiad y peli biliards. Ehangwyd ar hyn trwy geisio gwahanu materion i gategorïau gwleidyddiaeth uchel ac isel, lle nad yw materion "uchel" o reidrwydd yn y materion pwysicaf ond y materion sydd yn pennu'r amgylchedd i faterion "isel" ddigwydd. Gwleidyddiaeth uchel, felly, yw sicrhau diogelwch cenedlaethol a chynnal yr amgylchedd ddiplomyddol ryngwladol.[2] Caiff y ddau ddosbarthiad hyn eu herio'n fwyfwy. Ystyrid bod nifer o faterion, yn enwedig yn wyneb globaleiddio, yn pontio'r meysydd mewnwladol ac rhyngwladol ac felly'n amhosib eu categoreiddio yn ôl y deipoleg gyntaf. Yn ail dadleua rhai bod y dosbarthiad uchel-isel yn annefnyddiol gan bod rhai digwyddiadau "isel" yn peri cymaint o fygythiad â digwyddiadau milwrol neu ddiplomyddol. Er enghraifft, i Saïr roedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr yn gymaint o fygythiad i ddiogelwch y wladwriaeth ag os oedd y miliynau o ffoaduriaid o Rwanda a Bwrwndi yn fyddin ymosodol.[3] Bellach ni cheir cymaint o bwyslais ar ddosbarthu materion rhyngwladol yn ôl eu math.[4]
Yr amgylchedd[golygu | golygu cod]
Tan y 1960au roedd gwleidyddiaeth amgylcheddol ryngwladol yn gyfyngedig, ond ers hynny mae materion amgylcheddol wedi dod yn amlwg iawn yng nghysylltiadau rhyngwladol wrth i broblemau amgylcheddol megis newid hinsawdd a diffyg cynaladwyedd gwaethygu.[5] Mae'r gymuned ryngwladol wedi ymateb trwy geisio darparu llywodraethiant amgylcheddol ar lefel fyd-eang trwy gydweithrediad rhwng gwladwriaethau[6] ond mae ymgeision i sicrhau rheoleiddio ar draws ffiniau wedi gwrthdaro rhywfaint â rheolau'r drefn fasnach fyd-eang.[7] Mae ysgolheigion cysylltiadau rhyngwladol yn fwyfwy ystyried materion amgylcheddol wrth geisio ddynodi'r amodau y ceir cydweithrediad rhyngwladol effeithiol oddi tanynt, a hefyd i astudio'r gogwydd newydd o fewn disgyrsiau academaidd, gwleidyddol, a phoblogaidd o drin materion amgylcheddol fel materion diogelwch.[8]
Cenedlaetholdeb[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Datblygiad[golygu | golygu cod]

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant a chrefydd[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Iechyd[golygu | golygu cod]
Yn sgil globaleiddio, mae polisi iechyd yn fwyfwy cysylltiedig â pholisi tramor a diogelwch cenedlaethol.[9] Blaenoriaethau'r agenda iechyd ryngwladol yw HIV/AIDS, bioderfysgaeth, a chlefydau pandemig megis SARS a ffliw'r moch.
Moeseg ryngwladol[golygu | golygu cod]

Mae moeseg ryngwladol yn ymwneud â materion moesegol o fewn cysylltiadau rhyngwladol, yn bennaf dyletswyddau y gweithredyddion amrywiol trwy wahaniaethau rhwng mewnwyr ac allanwyr, ac i ba raddau mae safonau moesegol yn gymwys at y ddwy grŵp hon. Ymhlith ei phryderon yw cysyniadau o hawliau dynol, ymyrraeth, a rhyfel (gan gynnwys targedu sifiliaid a'r rhyfel cyfiawn).
Mudo, ffoaduriaid a phoblogaethau[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Rhanbartholdeb[golygu | golygu cod]

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Terfysgaeth[golygu | golygu cod]

Er bu gan derfysgaeth hanes hir cyn yr unfed ganrif ar hugain, dim ond ar ôl ymosodiadau 11 Medi 2001 gan Al-Qaeda ar yr Unol Daleithiau a'r datganiad yn dilyn o Ryfel yn erbyn Terfysgaeth y daeth terfysgaeth yn fater rhyngwladol i lywodraethau ac academyddion.[10][11] Ynghynt ystyriwyd terfysgaeth yn fater mewnwladol ond bellach mae globaleiddio wedi ei gwneud yn fygythiad i ddiogelwch rhyngwladol yn ogystal â diogelwch cenedlaethol.[10]
Trosedd a llygredigaeth[golygu | golygu cod]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ White, Little a Smith, t. 5.
- ↑ White, Little a Smith, t. 9.
- ↑ White, Little a Smith, t. 10.
- ↑ White, Little a Smith, t. 11.
- ↑ Vogler, t. 356.
- ↑ Vogler, t. 353.
- ↑ Vogler, t. 360.
- ↑ Vogler, t. 366.
- ↑ Owen, John W.; Roberts, Olivia (2005). "Globalisation, health and foreign policy: emerging linkages and interests". Globalization and Health 1 (12). doi:10.1186/1744-8603-1-12. http://www.globalizationandhealth.com/content/1/1/12. Adalwyd 23 Hydref 2012.
- ↑ 10.0 10.1 Dunne, t. 257.
- ↑ Dunne, t. 258.
Ffynonellau[golygu | golygu cod]
Dunne, Tim (2005). "Terrorism", gol. White, Brian; Little, Richard; Smith, Michael: Issues in World Politics. Palgrave Macmillan
Vogler, John (2008). "Environmental issues", gol. Baylis, John; Smith, Steve; ac Owens, Patricia: The Globalization of World Politics. Gwasg Prifysgol Rhydychen
White, Brian; Little, Richard; a Smith, Michael (2005). "Issues in World Politics", gol. White, Brian; Little, Richard; Smith, Michael: Issues in World Politics. Palgrave Macmillan
Darllen pellach[golygu | golygu cod]
- Salmon, Trevor C. a Imber, Mark F. (gol.) (2008). Issues in International Relations. Routledge
- Yr amgylchedd
- Seckinelgin, Hakan (2006). The Environment and International Politics. Routledge