Argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwersyll ffoaduriaid yn Saïr ym 1994.

Y sefyllfa ddyngarol enbydus yn sgîl hil-laddiad Rwanda oedd argyfwng ffoaduriaid y Llynnoedd Mawr. Ymadawodd dros ddwy filiwn o Rwandiaid i wledydd cyfagos yn ardal Llynnoedd Mawr Affrica yn y cyfnod 6 Ebrill–19 Gorffennaf 1994. Y Twtsïaid a'r Hwtwiaid cymedrol, rhyw 800,000–1 miliwn ohonynt, a lofruddiwyd yn y lladdfâu dan arweiniad Lluoed Arfog Rwanda'r Hwtw (FAR). Roedd y mwyafrif o'r ffoaduriaid yn Hwtwiaid a ddaeth i aros mewn gwersylloedd yn Saïr, Tansanïa a Bwrwndi.

Cychwynnodd yr ymfudiad wrth i natur frys y hil-laddiad ddadleoli niferoedd enfawr o sifiliaid. Gadawodd mwy na 1.5 miliwn o Hwtwiaid Rwanda erbyn mis Gorffennaf. Dihangodd dros filiwn rhagor o Hwtwiaid yn nyddiau ola'r hil-laddiad. Mudodd tua 850,000 o ffoaduriaid trwy dref Goma yn nwyrain Säir rhwng 14 a 18 Gorffennaf. Roeddynt yn ofni dial gan Ffrynt Gwladgarol Rwanda (RPF), a enillodd rheolaeth dros y wlad wrth i'r gwrthdaro dod i ben. Croesodd 300,000 arall y goror i Saïr yn sgîl cau'r parth diogel dan reolaeth y Ffrancod yn ne-orllewin Rwanda ym mis Awst. Erbyn Medi 1994, amcangyfrifir i ddwy filiwn o Hwtwiaid geisio lloches yn Saïr, Tansanïa a Bwrwndi. Yn ôl ystadegau Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, ym Medi 1996 roedd 533,000 o ffoaduriaid Rwandaidd yn Nhansanïa a 1,105,000 ohonynt yn Saïr.[1]

Ymhlith y ffoaduriaid roedd miloedd o aelodau'r Interahamwe, llu lledfilwrol Hwtŵaidd, a nifer o gwleidyddion a swyddogion y FAR. Mae'n bosib bu 10–15% o'r ffoaduriaid yn genocidaires, hynny yw ymysg yr hil-lofruddion. Gwnaeth aelodau'r llywodraeth a'r arweinwyr milwrol ddwyn nifer o adnoddau'r wladwriaeth gyda hwy: arian ac asedau eraill o'r trysorlys, cyfrifon banc tramor, arfau a werthid iddynt gan lywodraethau er gwaethaf gwaharddiad arfau gan y Cenhedloedd Unedig, ac hyd yn oed dolenni'r drysau a fframiau'r ffenestri o'r adeiladau gweinyddol. Ymsefydlodd y mwyafrif o'r arweinwyr yn Saïr, a llywodraeth y wlad honno yn esgeuluso'r troseddau. Buont yn byw am gyfnod mewn gwestai ar lannau Llyn Kivu, tra'r oedd cyn-filwyr y FAR yn byw yn y gwersylloedd ffoaduriaid mawr.[1]

Wedi methiant y gymuned ryngwladol i atal yr hil-laddiad, denodd yr argyfwng ffoaduriaid cryn sylw gan y cyfryngau. Ymgasglodd 450 o sefydliadau anllywodraethol, asiantaethau cymorth ac elusennau dyngarol yn Rwanda a'r gwersylloedd ffoaduriaid yn y gwledydd cyfagos. Roedd presenoldeb y genocidaires yn hynod o beryglus i'r sefyllfa ddyngarol, gan iddynt ddefnyddio'r gwersylloedd i lansio cyrchoedd ar lywodraeth newydd Rwanda. Tynodd nifer o sefydliadau'n ôl o'r ardal gan geisio atal dargyfeirio'r cymorth i'r grwpiau hyn.[2] Gwaethygodd y gwrthdaro nes cychwyn Rhyfel Cyntaf y Congo ym 1996, pan goresgynwyd Saïr dan nawdd Rwanda a cheisiwyd dychwelyd y ffoaduriaid yn ôl i'w mamwlad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Victoria Passant. "The Great Lakes Refugee Crisis and the Dilemma of Contemporary Humanitarianism", POLIS (Rhagfyr 2009). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2016.
  2. (Saesneg) Howard Adelman. "The Use and Abuse of Refugees in Zaire". Adalwyd ar 18 Tachwedd 2016.