Anllywodraeth (cysylltiadau rhyngwladol)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o gysyniadau hanfodol ond dadleuol[1] cysylltiadau rhyngwladol yw anllywodraeth y system ryngwladol (neu'r system ryngwladol anarchaidd), sef absenoldeb awdurdod canolog i wleidyddiaeth y byd. Nid yw anllywodraeth yn golygu anhrefn, ond yn hytrach cyflwr ffurfiol y system ryngwladol o ganlyniad i annibyniaeth pob gwladwriaeth ar ei gilydd.[2] Er bod sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig yn bodoli, yn y bôn dim ond gwladwriaethau sydd yn sofran.

Roedd natur anarchaidd y system ryngwladol yn ganolbwynt i lyfr yr ysgolhaig Hedley Bull, The Anarchical Society (1977), oedd yn manylu ar fodel yr Ysgol Seisnig o gymdeithas ryngwladol.

Mae academyddion yn anghytuno dros ba elfen o lywodraeth yn union sydd ar goll yn y system ryngwladol sydd yn ei diffinio fel system anarchaidd. Dywed rhai, gan ddyfynnu diffiniad Weber o'r wladwriaeth, taw sefydliad canolog gyda monopoli ar ddefnydd grym sydd ar goll.[2]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Evans a Newnham, t. 18.
  2. 2.0 2.1 Hurd, t. 20.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998).
  • Ian Hurd, "Anarchy" yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Routledge, 2005).