Yr Ysgol Seisnig

Oddi ar Wicipedia

Damcaniaeth ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw'r Ysgol Seisnig sydd yn gyffredinol yn pontio'r traddodiadau realaidd a rhyddfrydol. Cychwynnodd damcaniaeth yr Ysgol Seisnig yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (LSE) yn y 1950au, a daw'r enw o'r ffaith roedd nifer o'i phrif ffigurau, er nad oeddent i gyd yn Saeson, yn gweithio yn Lloegr, yn enwedig yr LSE a phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.[1] Ei helfen nodweddiadol yw cysyniad y gymdeithas ryngwladol.

Tynna'r Ysgol Seisnig ar resymoliaeth, un o'r tri thraddodiad a ddisgrifir gan Martin Wight yn International Theory: The Three Traditions (1990), ynghyd â realaeth a chwyldroadaeth. Hugo Grotius yw'r meddyliwr a gydnabyddir yn lladmerydd y rhesymolwyr, a'i waith De Jure Belli ac Pacis (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") oedd yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Gweledigaeth yr Ysgol Seisnig felly yw trefn gyfreithiol ryngwladol sydd yn cynnwys pob un wladwriaeth. Un o hoelion wyth yr Ysgol Seisnig yw Hedley Bull, a ddadansoddai anllywodraeth y system ryngwladol yn ei gampwaith The Anarchical Society (1977). Nod y gymdeithas ryngwladol yw adnabod diddordebau cyffredin a gwerthoedd cyfanfydol y ddynolryw, gosod rheolau ac egwyddorion y drefn ryngwladol, a chynnal sefydliadau rhyngwladol. Mae Bull yn ystyried rhyfel ei hun yn sefydliad rhyngwladol, wedi ei ffurfio i ddatrys gwahaniaethau grym ac i ennill diddordebau, ac yn dystoliaeth o'r gymdeithas ryngwladol.

Mae rhai wedi disgrifio'r Ysgol Seisnig yn gyfuniad o syniadau'r realwyr a'r rhyddfrydwyr. Yn debyg i realaeth, mae syniad y gymdeithas ryngwladol yn gosod y wladwriaeth yn brif weithredydd, ac yn cydnabod taw realiti grym sydd yn pennu buddiannau'r wlad. O ganlyniad, mae'r Ysgol Seisnig yn derbyn gwahaniaethau grym rhwng gwledydd, a phosibiliad rhyfel rhyngddynt. Mae'n rhannu sawl agwedd â'r ysgol ryddfrydol hefyd, yn bennaf y gobaith am leddfu'r anhrefn drwy'r gyfraith ryngwladol a diplomyddiaeth, a chyfuno rheolau er cyd-fodolaeth â'r cydbwysedd grym i greu drefn "gymdeithasol".

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brown, C. ac Ainley, K. Understanding International Relations (Palgrave Macmillan, 2009), t. 50.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Brown, C. ac Ainley, K. Understanding International Relations (Lloegr, Palgrave Macmillan, 2009).
  • Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998).
  • Griffiths, M. (gol.) Encyclopedia of International Relations and Global Politics (Efrog Newydd, Routledge, 2008).