Adeileddaeth (damcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol)
Data cyffredinol |
---|
Damcaniaeth ym maes cysylltiadau rhyngwladol yw adeileddaeth sydd yn pwysleisio natur adeiladol y system ryngwladol ac yn mynnu taw lluniadau hanesyddol a chymdeithasol ydy ei phrif nodweddion yn hytrach na gwirioneddau anochel o ganlyniad i natur ddynol.
Ymddangosai adeileddaeth yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol yn y 1980au, ac enillodd ei haeddiant yn sgil diwedd y Rhyfel Oer.[1] Daeth i herio'r ddadl ddeuol rhwng neo-realaeth a neo-ryddfrydiaeth a oedd yn nodi'r maes yn niwedd yr 20g.[2] Mae damcaniaethau adeileddol yn ymwneud â'r effeithiau sydd gan syniadau ar y strwythur ryngwladol, sut mae'r strwythur honno yn pennu diddordebau gwladwriaethau, a'r moddion mae gwladwriaethau a gweithredyddion anwladwriaethol yn cynnal at atgynhyrchu'r strwythurau.[3] Prif elfen adeileddaeth ydy'r gred taw syniadau dylanwadol, gwerthoedd cyfunol, diwylliant, ac hunaniaethau cymdeithasol sydd yn siapio hynt a helynt, trefn ac anhrefn gwleidyddiaeth ryngwladol. Dadleuir taw peth gwneud yw'r realiti ryngwladol, a bennir gan strwythurau cymdeithasol a gwybyddol sydd yn rhoi ystyr i'r byd materol.[4] Ymddangosodd y ddamcaniaeth yn sgil dadleuon ynghylch y dull gwyddonol ym maes cysylltiadau rhyngwladol a'r rhan sydd gan damcaniaethau wrth greu a siapio grym gwleidyddol rhyngwladol.[5] Dywed Emanuel Adler bod adeileddaeth yn meddu'r tir canol rhwng damcaniaethau rhesymolaidd a dehongliadol.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ [1]
- ↑ Hopf, Ted, The Promise of Constructivism in International Relations Theory, International Security, Vol. 23, No. 1 (Summer, 1998), p.171
- ↑ Michael Barnett, "Social Constructivism" in The Globalisation of World Politics, Baylis, Smith and Owens, 4th ed, OUP, p.162
- ↑ 4.0 4.1 Alder, Emmanuel, Seizing the middle ground, European Journal of International Relations, Vol .3, 1997, p.319
- ↑ K.M. Ferike, International Relations Theories:Discipline and Diversity, Dunne, Kurki and Smith, OUP, p.167