Cymdeithas sifil ryngwladol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Enw ar y rhannau cydweithredol o gymdeithas ar y lefel ryngwladol sydd ar wahân i wladwriaethau a sefydliadau llywodraethol yw cymdeithas sifil ryngwladol neu gymdeithas sifil fyd-eang. Mae'r cysyniad yn cyfeirio at weithredyddion anwladwriaethol a thrawswladol – gan gynnwys sefydliadau anllywodraethol amlwladol, megis elusennau a charfanau pwyso, a mudiadau cymdeithasol byd-eang – ac yn pwysleisio natur luosogaethol eu gweithgareddau a'u prosesau. Ynghlwm wrth y term mae'r awgrymiad bod pwysigrwydd y system wladwriaethau yn dirywio a chysyniad yr hen wladwriaeth sofran Westffalaidd ar drengi, a bod globaleiddio yn creu cyfundrefn newydd o gyd-ddibyniaeth fyd-eang a chanddi gymunedau, hunaniaethau, a strwythurau awdurdodol yn croesi ffiniau tiriogaethol. Mae'r term yn gysylltiedig â swyddogaetholdeb yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol, y syniad o "drefn byd newydd" a safbwynt y gymdeithas fyd, ac yn groes felly i wladwriaeth-ganoliaeth a model y peli biliards.[1] Mae'r cysyniad yn addasu tybiaethau'r cymdeithas sifil fewnwladol at y lefel dadansoddi fyd-eang, ac yn cymryd yn ganiataol felly bod rhwydweithiau y tu hwnt i ffiniau a sofraniaeth y wladwriaeth yn galluogi unigolion a grwpiau cymdeithasol i weithredu heb ddibynnu ar awdurdodau a strwythurau llywodraethol.[2] Ymledodd y syniad o gymdeithas sifil ryngwladol yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd a'r bloc comiwnyddol ym 1989–91 a diwedd y Rhyfel Oer.[3]

Gan ei bod yn gweithredu heb ddibynnu ar y wladwriaeth, fe'i ystyrir gan nifer yn fodd o ddemocrateiddio'r byd gwleidyddol a gwrthsefyll grym awdurdodaidd. Ymdrecha rhai o weithredyddion y gymdeithas sifil ryngwladol adeiladu trefnau ffurfiol ac anffurfiol i hyrwyddo heddwch, datblygiad economaidd, amgylcheddaeth, ac achosion eraill ar draws ffiniau.[2] Cofleidir uchelgais a dichonoldeb cymdeithas sifil ryngwladol gan radicalwyr, ar yr adain chwith yn bennaf, sydd yn ei chysylltu â phrosesau democrataidd anffurfiol, ac athroniaeth "y dinesydd gweithredol". Er iddi ddatblygu o ganlyniad i globaleiddio, mae nifer o fudiadau ar wasgar y gymdeithas sifil ryngwladol yn gweithredu mewn adwaith i'r drefn hon, gan gynnwys y mudiad gwrth-globaleiddio, gwrth-gyfalafiaeth, ac ymgyrchwyr dros gyfiawnder byd-eang. Mae'r rhai sydd o blaid ffurfiau traddodiadol ar ddemocratiaeth yn cwestiynu cyfreithlondeb ac atebolrwydd y sefydliadau a mudiadau sydd yn dod i'r amlwg yn y gymdeithas sifil ryngwladol, ac yn pryderu bod grymoedd sefydledig megis cyfalaf a grym gwleidyddol yn dylanwadu ar y drefn o hyd. Yn ôl model democratiaeth ryddfrydol, mae cymdeithas sifil yn cydbwyso â swyddogaethau'r wladwriaeth a'r farchnad er lles y bobl, ac yn amddiffyn yn erbyn grymoedd economaidd a gwleidyddol ym materion rhyngwladol. O safbwynt y Marcswyr, mae'r wahaniaeth rhwng y gyhoeddfa a'r cylch preifat wrth wraidd cyfalafiaeth a'r wladwriaeth ryddfrydol, ac felly heb lywodraeth fyd nid oes modd i gymdeithas sifil ryngwladol fodoli ychwaith gan nad oes awdurdod gwleidyddol o'r un lefel dadansoddi ac felly ni cheir dilechdid.[4] Er gwaethaf, gellir llunio dadansoddiad Marcsaidd o gymdeithas sifil fyd-eang os caiff ei chyferbynnu â'r gyfundrefn economaidd fyd-eang, ac ymddengys sefyllfa ddilechdidol o fudiadau gwrth-globaleiddio sydd yn elwa ar ddiffyg rheoliadau a ffiniau yn y strwythur economaidd fyd-eang i ymgyrchu a gweithredu yn erbyn y drefn gyfalafol sydd ohoni.[5]

Sefydliadau anllywodraethol (NGOau)[golygu | golygu cod y dudalen]

Prif weithredydd y gymdeithas sifil ryngwladol ydy'r sefydliad anllywodraethol neu NGO (o'r Saesneg: nongovernmental organisation). Mae cannoedd o filoedd o NGOau yn gweithredu o gwmpas y byd ac yn ymwneud â phob math o achosion a meysydd, a thrwy ddulliau sydd yn amrywio o ymgyrchu a threfnu cymunedol, i waith ymchwil a chyhoeddusrwydd, i ddarparu cymorth a gwasanaethau, i lobïo a chodi arian am elusennau neu i ariannu sefydliadau eraill, i anufudd-dod sifil a phrotestiadau uniongyrchol. Fel rheol, ni chynhwysir yn y grŵp hwn gymdeithasau dinesig a lleol bychain sydd yn anwleidyddol, er eu bod yn agwedd bwysig o gymdeithas sifil fewnwladol a'r gydberthynas rhwng y wladwriaeth, y farchnad a'r bobl. Ni chynhwysir ychwaith gorfforaethau a gweithredyddion eraill yn y farchnad economaidd, er bod busnesau a chwmnïau yn ymwneud yn fwyfwy â gweithgareddau megis lobïo, rhoddion elusennol, cefnogi cymunedau ac ymgyrchoedd cymdeithasol.[4]

Y berthynas economaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er nad oes un lywodraeth fyd, mae globaleiddio economaidd a thwf neo-ryddfrydiaeth wedi integreiddio'r economi fyd-eang fel ei bod yn fwy annibynnol ar – ac yn llai atebol i – lywodraethau cenedlaethol. Heb awdurdod canolog i gyfyngu ar yr hyn a elwir or-gyfalafiaeth neu ffwndamentaliaeth y farchnad rydd, daw cymdeithas sifil ryngwladol i flaen y gad drwy alw ar alluoedd ac adnoddau anllywodraethol i geisio rheoleiddio'r drefn economaidd, drwy naill ai bwyso ar lywodraethau a chwmnïau eu hunain neu annog unigolion a chymunedau i ddefnyddio'r nerth economaidd a chyfoeth sydd ganddynt ac i newid eu hymddygiadau fel prynwyr a gwerthwyr, cyflogwyr a gweithwyr.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998), t. 259.
  2. 2.0 2.1 Evans a Newnham, Dictionary of International Relations (1998), t. 260.
  3. Ronnie D. Lipschutz, "Global Civil Society" yn Encyclopedia of Political Theory, golygwyd gan Mark Bevir (Thousand Oaks, Califfornia: SAGE, 2010), tt. 553–4.
  4. 4.0 4.1 Lipschutz, "Global Civil Society" yn Encyclopedia of Political Theory (2010), t. 554.
  5. Lipschutz, "Global Civil Society" yn Encyclopedia of Political Theory (2010), t. 554–5.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Graham Evans a Jeffrey Newnham, The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain: Penguin, 1998).
  • Ronnie D. Lipschutz, "Global Civil Society" yn Encyclopedia of Political Theory, golygwyd gan Mark Bevir (Thousand Oaks, Califfornia: SAGE, 2010), tt. 553–5.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gideon Baker a David Chandler (goln), Global Civil Society: Contested Futures (Llundain: Routledge, 2005).
  • Alejandro Colás, International Civil Society: Social Movements in World Politics (Caergrawnt: Polity, 2002).
  • Ronnie D. Lipschutz (gol.), Civil Societies and Social Movements: Domestic, Transnational, Global (Aldershot, Hampshire: Ashgate, 2006).