Dilechdid
Gwedd
| Math | ymgom |
|---|---|
| Rhan o | athroniaeth y Gorllewin |
| Prif bwnc | cyferbyniad |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dwc2 |
| Thesawrws y BNCF | 29396 |
| Quora | Dialectics-1 |
Ffordd o ddadlau sydd wedi chwarae rôl ganolog mewn athroniaeth Idaidd a Gorllewinol ers blynyddoedd maith ydy dilechdid. Seilir dilechdid ar ddeialog rhwng dau berson neu fwy sydd yn meddu ar safbwyntiau gwahanol, ond sydd yn dymuno canfod y gwironedd am fater trwy gyfnewid safbwyntiau gan ddefnyddio dadleuon rhesymegol. Mae hyn yn wahanol i ddadl, lle mae'r ddwy ochr yn ymroddedig i'w dadleuon eu hunain ac yn ennill y ddadl trwy berswadio neu brofi mai ei dadl hwy sy'n gywir (neu'r person arall sy'n anghywir). Mae hyn hefyd yn wahanol i areitheg, sydd wedi ei gynllunio i gael effaith emosiynol ar y gwrandawr er mwyn eu perswadio i gytuno neu weithredu (enghraifft fodern o areitheg fodern yw areithiau gwladgarol a gwleidyddol.)