Lefelau dadansoddi

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lefel dadansoddi)

Yn namcaniaeth cysylltiadau rhyngwladol ac astudiaeth cysylltiadau rhyngwladol safbwyntiau i drefnu ymchwil a dadansoddiad o'u cwmpas yw lefelau dadansoddi. Yn gyffredinol, ystyrid bod yna tair lefel dadansoddi: yr unigolyn neu'r lefel iswladwriaethol, y wladwriaeth, a'r system ryngwladol.

Cyflwynwyd y cysyniad gan Kenneth Waltz ym 1959 yn ei lyfr Man, the State and War, a bathwyd y term "lefel dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn World Politics yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo anllywodraeth yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.

ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Robinson, P. Stuart. 'Levels of analysis' yn Encyclopedia of International Relations and Global Politics, golygwyd gan Martin Griffiths (Llundain, Routledge, 2005), tt. 502–5.
  • Singer, J. David. 'International Conflict: Three Levels of Analysis'. World Politics, 12 (3) (Ebrill 1960), tt. 453–61.
  • Singer, J. David. 'The Level-of-Analysis Problem in International Relations'. World Politics, 14 (1) (Hydref 1961), tt.77–92.
  • Waltz, Kenneth. Man, the State and War: A Theoretical Analysis (Efrog Newydd, Gwasg Prifysgol Columbia, 1959).
Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.