Rosa Luxemburg
| Rosa Luxemburg | |
|---|---|
| Ffugenw | R. Kruszynska |
| Ganwyd | Rozalia Luxenburg 5 Mawrth 1871 Zamość |
| Bu farw | 15 Ionawr 1919 Berlin |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen, Ymerodraeth Rwsia |
| Addysg | Doethuriaeth Nauk mewn Gwyddoniaeth Wleidyddol |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, athronydd, chwyldroadwr, economegydd, golygydd, damcaniaethwr gwleidyddol, person ôl-raddedig ym maes busnes, gohebydd gyda'i farn annibynnol, golygydd cyfrannog, darlithydd, casglwr botanegol |
| Adnabyddus am | The Accumulation of Capital, Social Reform or Revolution |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Plaid Sosialaidd Ddemocrataidd Annibynnol yr Almaen, Spartacus League, Social Democracy of the Kingdom of Poland and Lithuania |
| Priod | Gustav Lübeck, Julian Marchlewski |
| Partner | Leo Jogiches |
| llofnod | |
Roedd Rosa Luxemburg (Pwyleg: Róża Luksemburg) (5 Mawrth 1871 – 15 Ionawr 1919) yn feddyliwr Marcsaidd a chwyldroadwraig Iddewig, yn enedigol o Wlad Pwyl.[1]
Ganed hi yn Zamość ger Lublin, Gwlad Pwyl, yn ferch i farsiandïwr coed. Cymerodd ran mewn mudiadau adain-chwith, a bu raid iddi ffoi i'r Swistir yn 1889, lle astudiodd ym Mhrifysgol Zürich. Yn 1898, priododd Gustav Lübeck, a symudodd i Berlin. Bu'n flaenllaw mewn nifer o bleidiau ar y chwith yn yr Almaen, a sefydlodd gylchgrawn o'r enw Die Rote Fahne (Y Faner Goch). Gyda Karl Liebknecht, sefydlodd y Spartakusbund, grŵp a ddaeth yn Blaid Gomiwnyddol yr Almaen yn nes ymlaen. Ym mis Ionawr 1919 cymerodd ran mewn gwrthryfel aflwyddiannus yn Berlin. Cymerwyd Luxembourg yn garcharor a'i saethu; taflwyd ei chorff i Gamlas Landwehr, Berlin.
-
Rosa Luxemburg
-
Clara Zetkin (chwith) a Rosa Luxemburg ar eu ffordd i Gyngres yr SPD, Magdeburg, 1910
-
Cerflun gan Rolf Biebl yn Franz-Mehring-Platz, Friedrichshain, Berlin.