Marcsiaeth ddadansoddol

Oddi ar Wicipedia

Ysgol feddwl Farcsaidd yw Marcsiaeth ddadansoddol sydd yn defnyddio technegau'r athronwyr dadansoddol o archwilio cysyniadau yn ogystal â dulliau economeg neo-glasurol i astudio a datblygu'r ddamcaniaeth Farcsaidd.

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 20g, bu'r mwyafrif o athronwyr dadansoddol yn gwrthod materoliaeth hanesyddol, un o brif elfennau y ddamcaniaeth Farcsaidd, fel yr amlinellir yn rhagair Karl Marx i'w waith Zur Kritik der politischen Ökonomie (1859). Dadleuasant bod Marx yn bwrw dwy ragdybiaeth sydd i bob golwg yn anghyson â'i gilydd: yn gyntaf, dylid esbonio strwythur gymdeithasol ac economaidd fel swyddogaeth o ddatblygiad gwyddonol a thechnolegol y gymdeithas, ac yn ail bod yr union un strwythur yn achosi (ac felly yn esbonio) y datblygiadau gwyddonol a thechnolegol hynny. Bu athronwyr dadansoddol hefyd yn nodi cyfyngiadau ar gysyniadaeth Marx ynghylch y berthynas rhwng y strwythur gymdeithasol a'r uwch-strwythur wleidyddol a chyfreithiol.[1]

Arloeswyd Marcsiaeth ddadansoddol yn niwedd y 1970au yn sgil ymdrechion G. A. Cohen i ddatrys y problemau a adnabuwyd gan yr athronwyr dadansoddol a hynny trwy ddulliau swyddogaetholdeb. Yn ogystal â methodoleg Cohen, mae eraill wedi cymhwyso theori dewis rhesymegol ac unigolyddiaeth fethodolegol at athroniaeth Farcsaidd. Mae nifer o ysgolheigion a Marcswyr wedi rhoi'r llach ar seiliau damcaniaethol Marcsiaeth ddadansoddol a'i chyhuddo o wyro oddi wrth syniadaeth hanfodol a dulliau Marx.

Marcsiaeth swyddogaethol[golygu | golygu cod]

Yr athronydd cyntaf i geisio cysoni Marcsiaeth ag athroniaeth ddadansoddol oedd G. A. Cohen yn ei gyfrol Karl Marx's Theory of History: A Defence (1978), gwaith sydd yn bwrw esboniadau swyddogaethol o osodiadau Marx ynghylch materoliaeth hanesyddol. Dadleuai Cohen. trwy gydweddiad â detholiad naturiol, bod dulliau Marx yn gallu egluro sut mae cymdeithas yn dewis y strwythur economaidd-gymdeithasol sydd yn addas at ddatblygu adnoddau'r gymdeithas honno. At ei ddiben, trodd Cohen gefn ar sawl agwedd o fateroliaeth ddilechdidol a'r traddodiad Hegelaidd sydd mor bwysig yng ngwaith Marx.

Er gwaethaf ei ymdrech i fodloni Marcswyr ac athronwyr dadansoddol fel ei gilydd, cafodd gwaith Cohen ei feirniadu am sawl rheswm. Ysgrifennodd Jon Elster gyfres o erthyglau a llyfr, Making Sense of Marx (1985), yn cyhuddo Cohen o fethu yn ei ymdrech i gyflwyno esboniadau swyddogaethol at ddadleuon Marx gan nad oedd eglurhadaeth achosol yn cynnal yr holl ddamcaniaeth.[1]

Darllen Pellach[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Analytical Marxism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Awst 2020.