Louis Althusser

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Louis Althusser
Louis Althusser sketch (8420987781).jpg
Ganwyd 16 Hydref 1918 Edit this on Wikidata
Bir Mourad Raïs Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Hydref 1990 Edit this on Wikidata (72 oed)
Achos: trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ecole Normale Supérieure Edit this on Wikidata
Galwedigaeth athronydd, gwleidydd, academydd, golygydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ecole Normale Supérieure Edit this on Wikidata
Adnabyddus am For Marx (work level), Reading Capital (work level), Ideology and Ideological State Apparatuses (work level) Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Karl Marx, Vladimir Lenin, Antonio Gramsci, Claude Lévi-Strauss, Gaston Bachelard, Mao Zedong, Baruch Spinoza, Georges Canguilhem Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Gomiwnyddol Ffrengig Edit this on Wikidata
Mudiad Marcsiaeth, structuralism, structural Marxism Edit this on Wikidata
Priod Hélène Rytmann Edit this on Wikidata

Athronydd Ffrengig oedd Louis Althusser (16 Hydref 191822 Hydref 1990) sydd yn nodedig am gyfuno athroniaeth Farcsaidd ag adeileddaeth.

Ganed yn Birmandreis, Algeria Ffrengig (heddiw Bir Mourad Raïs, Algeria). Fe'i galwyd i'r fyddin yn 1939 ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ac yn sgil cwymp Ffrainc ym Mehefin 1940 fe gafodd ei ddal mewn gwersyll carcharorion rhyfel gan yr Almaenwyr nes diwedd y rhyfel.[1]

Yn 1948 ymunodd Althusser â Phlaid Gomiwnyddol Ffrainc. Yn yr un flwyddyn, fe'i penodwyd i gyfadran yr École Normale Supérieure ym Mharis, a bu'n addysgu yno am ddeng mlynedd ar hugain bron. Yn 1965 cyhoeddodd ei ddau brif waith ar bwnc athroniaeth Karl Marx, Pour Marx a Lire 'le Capital'. Tynnodd ar waith athronwyr y gwyddorau Gaston Bachelard a Georges Canguilhem i amlygu'r wahaniaeth rhwng syniadaeth Hegelaidd gynnar Marx a'i hanesyddiaeth ddiweddarach, a bod y wahaniaeth hon yn nodi "toriad epistemolegol" yn athroniaeth Marx. I'r un perwyl, ysgrifennodd Althusser draethawd, "Idéologie et appareils idéologiques d'État" (1970), yn dadlau'n erbyn dehongliadau traddodiadol o benderfyniaeth economaidd Marx drwy dynnu sylw at y pwysigrwydd a roddai i wleidyddiaeth, y gyfraith, ac ideoleg yn ei weithiau diweddarach. Yn y 1970au bu'n lladd ar Blaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd a Staliniaeth. Bu hefyd yn beirniadu Plaid Gomiwnyddol Ffrainc am roi'r gorau i'r nod o unbennaeth y proletariat.

Yn Nhachwedd 1980, dioddefodd Althusser chwalfa yn ei iechyd meddwl a fe dagodd ei wraig, Hélène Rytmann, yn farw. Fe'i datganwyd yn anghymwys i'w roi ar brawf yn 1981, a chafodd ei gadw mewn ysbyty seiciatrig am dair blynedd. Bu farw o fethiant y galon mewn ysbyty henoed ger Paris yn 72 oed.[2] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ei hunangofiant, L'avenir dure longtemps, yn 1992. Ynddo mae'n cyfaddef nad oedd wedi darllen yn helaeth ac nid oedd yn gyfarwydd â gwaith nifer o brif athronwyr y Gorllewin, a'i fod yn euog o ffugio dyfyniadau gan Bachelard yn ei draethawd ymchwil.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Louis Althusser. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Ionawr 2020.
  2. (Saesneg) Eric Pace, "Louis Althusser, 72, a Marxist Who Harshly Criticized Moscow", The New York Times (24 Hydref 1990). Adalwyd ar 30 Tachwedd 2019.
  3. (Saesneg) Gilbert Adair, "Getting away with murder", The Independent (2 Gorffennaf 1992). Adalwyd ar 30 Ionawr 2019.