Plaid Lafur Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Labour Party
Páirtí an Lucht Oibre
Arweinydd Brendan Howlin TD
Sefydlydd James Connolly
James Larkin
William X. O'Brien
Seanad Leader Senator Ivana Bacik
Cadeirydd y blaid seneddol Willie Penrose TD
Cadeirydd Jack O'Connor
Ysgrifennydd Cyffredinol Brian McDowell
Sefydlwyd 1912 (1912)
Pencadlys 11 Hume Street, Dulyn 2, D02 T889, Ireland
Asgell yr ifanc Labour Youth
Women's wing Labour Women
Rhestr o idiolegau Social democracy[1][2][3][4]
Pro-Europeanism
Sbectrwm gwleidyddol chwith i'r canol
Partner rhyngwladol Progressive Alliance,
Socialist International
Cysylltiadau Ewropeaidd Party of European Socialists
Grŵp yn Senedd Ewrop Progressive Alliance of Socialists and Democrats
Lliw Coch
Dáil Éireann
7 / 158
Seanad Éireann
4 / 60
European Parliament
0 / 11
Local government
50 / 949
Gwefan
labour.ie

Mae Plaid Lafur Iwerddon, Labour Party Gwyddeleg: Páirtí an Lucht Oibre) yn blaid sosialaidd-ddemocrataidd ar gyfer Gweriniaeth Iwerddon. Sefydlwyd hi yn 1912 yn nhref Clonmel, Sir Tipperary, gan James Larkin, James Connolly a William X. O'Brien fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon.[5]

Yn wahanol i bob un o brif bleidiau eraill y Weriniaeth, ni dyfodd y Blaid Lafur allan o rwyg ymysg rhengoedd plaid Sinn Féin, er i’r blaid lyncu plaid y Chwith Democrataidd Iwerddon yn 1999, oedd â’i gwreiddiau yn Sinn Féin.

Mae’r blaid wedi rheoli fel partneriaid iau mewn clymbeldiau yn llywodraeth Dáil Éireann saith gwaith ers ei sefydlu: chwech gwaith mewn clymblaid gyda Fine Gael ar ben ei hun neu gyda Fine Gael a phleidiau llai eraill, ac unwaith gyda phlaid Fianna Fáil. Mae wedi rheoli felly 19 mlynedd fel rhan o llywodraeth, yr ail hiraf o blith pleidiau’r Weriniaeth ar ôl Fianna Fail. Llafur, yn draddodiadaol yw trydydd plaid fwyaf y wladwriaeth. Mae’r Blaid Lafur yn aelod o’r Progressive Alliance, Socialist International, a Phlaid Sosialwyr Ewrop (PES).

Sefydlu[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb James Connolly, Dulyn

Sefydlodd James Connolly, James Larkin and William X. O'Brien Blaid Lafur Iwerddon yn 1912 fel adain wleidyddol Cyngres Undebau Llafur Iwerddon er mwyn cynrychioli eu buddiannau yn Senedd Iwerddon a ddisgwylid ei sefydlu yn dilyn Trydydd Deddf Hunan-lywodraeth Iwerddon 1914. Ond, yn dilyn curo’r undebau llafur yn ‘lock out’ enwog Dulyn yn 1913 gwanhawyd y mudiad ac yn 1914 ymfudodd James Larkin a dienyddiwyd James Connolly wedi Gwerthryfel y Pasg 1916.

Sefydlwyd Byddin Dinasyddion Iwerddon, yr Irish Citizen Army (ICA) yn ystod y lockout,[6] a dyma oedd cangen filwrol anffurfiol y mudiad llafur. Cymerodd yr ICA ran yng Ngwrthryfel 1916[7] a cymeroedd y Cyngh Richard O'Carroll, aelod Llafur o Gorfforaeth Dulyn (cyngor y ddinas). Saethwyd O'Carroll a bu farw ar 5 Mai 1916.[8] Atgyfodwyd yr ICA yn ystod cyfnod Peadar O'Donnell's a phlaid lled-gmiwnyddol weriniaethol, Republican Congress ond wedi rhwyg yn 1935 ymunodd y rhan fwyaf o’r ICA gyda’r Blaid Lafur. Bu Plaid Lafur Prydain yn weithredol yn yr Iwerddon, ond wedi 1913 penderfynodd Pwyllgor Ganolog y Blaid i gytuno mai Plaid Lafur Iwerddon fyddai â’r hawl i weithredu a threfnu ar draws Iwerddon. Gwrthwynebodd grwp o undebwyr llafur Belffast I hyn a sefydlwyd y Belfast Labour Party a ddaeth yn gnewyllyn i sefydlu Plaid Lafur Gogledd Iwerddon, a oedd arwahân i Blaid Lafur Iwerddon.

Annibyniaeth Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Safodd y Blaid Lafur ddim yn etholiad bwysig 1918 i’r Dáil Éireann gyntaf. Gwnaethpwyd hyn er mwyn i’r etholiad ganolbwyntio ar gwestiwn annibyniaeth Iwerddon ac i Sinn Féin (y blaid weriniaethol dros annibyniaeth) i ennill yr etholiad. [9] Safodd y blaid ddim yn etholiad 1921 i’r Dail chwaith. O ganlyniad, doedd y Blaid Lafur a’i daliadau ddim yn rhan ganolog o sefydlu’r wladwriaeth newydd.

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel pob rhan o gymdeithas Iwerddon rhannodd Cytundeb Eingl-Wyddelig Rhagfyr 1921 Blaid Lafur Iwerddon. Ochrodd rhai gyda’r Cytundeb a rhai yn erbyn. Hybodd O’Brien a Johnson i’w haelodau gefnogi’r Cytundeb. Yn Etholiad Gyffredinnol gyntaf Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 fe enillodd y Blaid 17 sedd. Bu sawl streic yn ystod y flwyddyn honno gan arwain I’r Blaid yn colli seddi yn etholiad gyffredinnol 1923 gan gwmpo i 14 sedd. Bu’r Blaid yn brif wrthynebwyr plaid asgell dde y llywodraeth, Cumann na nGaedhael nes blaid newydd Eamon de Valera, Fianna Fáil gymryd eu seddi yn 1927. Yn 1932 aeth Llafur i lywodraeth am y tro cyntaf fel y blaid leiaf mewn clymblaid gyda Fianna Fáil.

Roedd y blaid yn llawer mwy gymdeithasol geidwadol na phleidiau sosialaidd eraill Ewrop, a rhwng 1932 ac 1977 roedd ei harweinwyr, (William Norton a’i olynydd, Brendan Corish) yn aelodau o urdd Marchogion Sant Columbanus, urdd Gatholig geidwadol.

Uchafbwyntiau Nodweddiadol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu i’r Blaid rhai arweinwyr neu aelodau nodweddiadol a bu’n adlewyrchiad ac yn rhan o newid agweddau pobl Gwerinieth Iwerddon at faterion cymdeithasol a chyfansoddiadol.

Arlywydd Benywaidd Gyntaf Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mary Robinson, 2014

Yn 1990 etholwyd Mary Robinson yn Uachtarán na hÉireann, Arlywydd Iwerddon benywaidd cyntaf Iwerddon a’r un cyntaf ers yr Arlywydd gyntaf, Douglas Hyde nad oedd yn aelod o Fianna Fail.

Er i Robinson fod yn aelod o’r Blaid Lafur fe ymddiswyddodd o’r blaid oherwydd ei gwrthwynebiad i safbwynt Llafur ar Gytundeb Eigl-Wyddelig 1985 oherwydd iddi gredu y dylsai Unoliaethwyr Ulster fod wedi cael rhan ar y Cytundeb. Safodd etholiad yr Arlywyddiaeth fel annibynwraig, ond cafodd gefnogaeth y Blaid Lafur. Yn ystod ei chyfnod hyrwyddwyd daliadau cymdeithasol oedd yn fwy rhyddfrydig i’r norm Wyddelig, Gatholig ac yn agosach at ddalidau’r Blaid Lafur.

Dick Spring[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu’n Tánaiste, Dirprwy Brif Weindiog, mewn dau lywodraeth. Y gyntaf oedd y 23ain Dáil, gyda Fianna Fáil yn 1993 – 1994 ac Albert Reynolds yn Taoiseach (Prif Weindog). Yr ail wedyn oedd, 24ain Dail, gyda Fine Gael a’r Chwith Democrataidd yn 1994-1997. Chwaraeodd rhan yn hyrwyddo gymod a phroses heddwch gyda llywodraeth Prydain ar ddyfodol Gogledd Iwerddon.

Arlywyddiaeth Michael D. Higgins[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Michael D. Higgins yn 9fed Arlywydd Iwerddon yn 2011. Cyn hynny bu’n Teachta Dála i’r Blaid Lafur ac yn Weinidog Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht 1993-1997. Yn ystod ei gyfnod cafodd wared ar Section 31 o’r Ddeddf Ddarlledu, ail-sefydlodd Bwrdd Ffilm Iwerddon a sefydlodd Teilifís na Gaeilge (a adnebir bellach fel TG4) [10] sef, y sianel deledu Wyddeleg ei hiaith a ysbrydolwyd gan lwyddiant S4C.

Arweinwyr y Blaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]