Tŷ Leinster

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tŷ Leinster
20130810 dublin214.JPG
Math Palas, Adeilad y Senedd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Duke of Leinster Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1748 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Dulyn Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau 53.3406°N 6.254°W Edit this on Wikidata
Arddull pensaernïol pensaernïaeth Sioraidd Edit this on Wikidata

Tŷ Leinster (Saesneg:Leinster House; Gwyddeleg: Teach Laighean) yw sedd yr Oireachtas, deddfwrfa Gweriniaeth Iwerddon. Yr adeilad yw man cyfarfod Dáil Éireann a Seanad Éireann, sef dau dŷ yr Oireachtas. Ceir y term, 'Leinster House' ei ddefnyddio fel trawsenw (metonym) ar gyfer llywodraeth Iwerddon a bywyd gwleidyddol y weriniaeth.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Iarll Kildare[golygu | golygu cod y dudalen]

Pwrpas gwreiddiol Ty Leinster oedd fel cartref yn ninas Dulyn i Iarll Kildare, sef, prif arglwydd Iwerddon. Byddai'r Iarll a'i deulu'n lletya yno yn ystod ' Y Tymor' Gwleidyddol pan fyddai Senedd Iwerddon yn cwrdd (prif preswylfa'r teulu oedd yn Blackrock, y tu allan i ddinas Dulyn). Fe'i hadeiladwyd rhwng 1745-48 mewn rhan o Ddulyn a oedd, ar y pryd, yn anffasiynol, ond yn cynnig digon i dir i adeiladu arno. Doedd yr un adeilad arall yn Nulyn yn cymharu iddo o ran maint.[1] Pan ddyrchafwyd yr Iarll yn Ddug Leinster yn 1766 newidiwyd enw'r tŷ i Leinster House.

Yr 19g[golygu | golygu cod y dudalen]

Gydag Uno Iwerddon â Phrydain yn 1800, diddymwyd senedd-dai Iwerddon a daeth yr angen am dŷ ysblennydd wrth ymyl sedd grym Iwerddon i ben. Symudodd nifer o arglwyddi Iwerddon i Lundain, gan werthu eu tai yn Nulyn.[2] Gwerthwyd Leinster House gan 3ydd Iarll Leinster i'r Royal Dublin Society yn 1815. Arferwyd cynnal Sioe Wanwyn enwog Dulyn ar lawnt Tŷ Leinster, yn gwynebu Sgwâr Merrion. Ar ddiwedd 19g, ychwanegwyd dau asgell i'r adeilad lle cartrefwyd Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon ac Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon. Adeiladwyd Amgueddfa Hanes Naturiol Iwerddon]] yno hefyd.

Cartref Senedd Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr hen gofeb i Michael Collins ac Arthur Griffith ar Lawnt Tŷ Leinster yn 1923, symudwyd yn 1939.
Cofadail 'newydd' i arweinwydd Annibyniaeth, lle'r un flaenorol

Yn 1916 dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac yn dilyn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon bu'r Prif Weindog newydd, W.T. Cosgrave yn chwilio am gartref i gynnal y senedd newydd. Y bwriad oedd canfod rhywle dros dro gan fod cynlluniau i droi Ysbyty Frenhinol Kilmainham, oedd yn adeilad fawr o'r 18g mewn digonnedd o dir, yn gartref sefydlog newydd i'r senedd. Ond gan fod yr adeilad yma dal o dan reolaeth Byddin Prydain penderfynwyd llogi prif ddarlithfa yr RDS oedd ynghlwm i Dŷ Leinster am y tro fel siamble y Dáil yn Rhagfyr 1922. Roedd y ffaith fod y seddi wedi eu ffurfio mewn basin siap pedol er mwyn creu yr awyrgylch orau i draddodi darlith, yn golygu fod yr ystafell eisoes wedi ei ddylunio'n berffaith fel siambr drafod neu senedd.

Yn sgil cynni ariannol, rhoddwyd i'r neilltu gynlluniau i brynu Ysbyty Frenhinol Kilmainham ar y dealltwriaeth y byddai modd symud i senedd-dy pwrpasol yn y dyfodol. Cadwyd y Dail yn yr hen ddarlithfa, lleolwyr Seanad Eireann o hen neuadd ddawns y Dug tra i esgyll adeilad y Royal College of Science gyfagos droi'n adeiladau i'r Llywodraeth. Prynwyd Tŷ Leinster gan yr RDS yn 1924.

Cofadail i Michael Collins ac Arthur Griffith[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu cofadail i ddau o arweinwyr Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon, Michael Collins ac Arthur Griffith ar yng nghefn Leinster House. Cofwyd y cofeb yn 1923 i gofio'r ddau a sefydlodd Gwladwriaeth Rydd Iwerddon er gwaethaf gwrthwynebiad chwyrn a gwaedlyd a'r Rhyfel Cartref dan arweiniad Éamon de Valera. Pan ddaeth Fianna Fail, plaid de Valera ,i rym yn 1932 roedd dyfodol y gofeb yn ansicr. Fe'i symudwyd yn 1939.[3][4]. Codwyd obelisg tal tenau, yn ei le yn 1950.[5]

Adnewyddu a'r Dyfodol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ers sefydlu'r Oireachtas yn Nhŷ Leinster mae sawl estyniad wedi bod gan gynnwys 'Bloc 66' a adeiladwyd ynghannol yr 1960 ac estyniad 2000 a adeiladwyd adeg y Milflwydd.

Yn 2018 cododd adroddiad gan y Ceann Comhairle gwestiynau dros addasrwydd a diogelwch yr adeilad o gofio ei hoed a'r holl waith adeiladu ac adnewyddu ac addasu sydd wedi bod ynddi. Cydnebid y bydd angen gwario ar adnewyddu'r adeilad yn y dyfodol.[6]


Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://www.irish-architecture.com/buildings_ireland/dublin/southcity/kildare_street/leinster.htm
  2. Nevin, Seamus. "History Repeating: Georgian Ireland's Property Bubble". History Ireland. pp. 22–24. JSTOR 10.2307/41331440. Missing or empty |url= (help)
  3. https://irishhistorypodcast.ie/5-controversial-dublin-monuments/
  4. http://catalogue.nli.ie/Record/vtls000299123
  5. https://www.broadsheet.ie/2013/08/22/monumental-indifference/
  6. http://www.tribune.ie/archive/article/2008/sep/14/leinster-house-is-falling-down-secret-report-warns/