Áras an Uachtaráin

Oddi ar Wicipedia
Áras an Uachtaráin
Enghraifft o'r canlynoladeilad cyhoeddus Edit this on Wikidata
PerchennogLlywodraeth yr Iwerddon Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthParc Phoenix Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.president.ie/en/explore-visit Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Áras an Uachtaráin (yn llythrennol: "Tŷ'r Arlywydd" yn yr iaith Wyddeleg) yw preswylfa swyddogol Arlywydd Iwerddon. Fe'i lleolir ym Mharc Phoenix ym mhrifddinas Gweriniaeth Iwerddon, Dulyn.

Cyn dod yn breswylfa arlywyddol, yr adeilad hwn oedd cartref Rhaglaw Iwerddon. Yr enw arno y pryd hwnnw oedd y "Viceregal Lodge".

Hanes[golygu | golygu cod]

Áras an Uachtaráin neu'r Vice-Regal Lodge fel y'i hadnabwyd ar y pryd, 1837 pan oedd Iwerddon gyfan yn rhan o'r Deyrnas Unedig

Cynlluniwyd yr adeilad gwreiddiol gan y pensaer Nathaniel Clements yng nghanol y 18g gan gwblau rhwng 1751 ac 1757.[1]ac fe’i prynwyd gan weinyddiaeth Arglwydd Raglaw Iwerddon (h.y. Rhaglaw, a adwaenir hefyd wrth y teitl hwnnw) i ddod yn gartref haf iddo yn yr 1780au. Lleolwyd ei breswylfa swyddogol yng Nghastell Dulyn. Yn ddiweddarach, daeth y tŷ a leolir yn y parc yn breswylfa Is-Ranol lle bu'n aros yn rheolaidd o'r 1820au. Yn nechreu y flwyddyn (o Ionawr hyd ddydd San Badrig ym mis Mawrth), yr oedd yn byw yng Nghastell Dulyn.

Ym 1911 adeiladwyd estyniad mawr i'r ty ar gyfer ymweliad y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary.

Llofruddiaethau Parc Phoenix[golygu | golygu cod]

Bu tiroedd y breswylfa yn lleoliad Llofruddiaethau Parc Phoenix gweriniaethol enwog yn 1882. Cafodd Prif Ysgrifennydd Iwerddon (gweinidog Cabinet Prydain gyda chyfrifoldeb am faterion Gwyddelig), yr Arglwydd Frederick Cavendish, a’i is-ysgrifennydd, Thomas Henry Burke, eu trywanu i farwolaeth gyda chyllyll llawfeddygol wrth gerdded yn ôl i’r breswylfa o Gastell Dulyn. Grŵp gwrthryfelgar bach o genedlaetholwyr Gwyddelig o'r enw Irish National Invincibles oedd yn gyfrifol. Clywodd y 5ed Iarll Spencer, yr Arglwydd Raglaw ar y pryd, sgrechiadau'r dioddefwyr o ffenestr yn y parlwr ar y llawr gwaelod.

Gwladwriaeth Rydd Iwerddon[golygu | golygu cod]

Douglas Hyde, c1940, Arlywydd gyntaf Iwerddon a phreswyliwr cyntaf yr adeilad fel Arlywydd

Ar ôl creu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922, diddymwyd swydd yr Arglwydd Raglaw. Cynigiodd y wladwriaeth newydd gartrefu cynrychiolydd y goron Brydeinig, Tim Healy, mewn preswylfa newydd, lai, ond, oherwydd bygythiadau marwolaeth gan Fyddin Weriniaethol Iwerddon, gosodwyd ef dros dro ym mhreswylfa'r Is-Raglaw.

Yna cafodd yr adeilad y llysenw "Uncle Tim's Cabin", ar ôl y nofel Americanaidd enwog Uncle Tom's Cabin gan Harriet Beecher Stowe.[2] Parhaodd yn gartref i Lywodraethwr Cyffredinol Gwladwriaeth Rydd Iwerddon hyd 1932, pan osodwyd y Llywodraethwr Cyffredinol newydd, Domhnall Ua Buachalla, mewn tŷ preifat ar rent arbennig yn ne Dulyn.

Preswylfa Arlywydd Iwerddon[golygu | golygu cod]

Ar ôl creu swydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon yn 1937, penderfynodd yr arlywydd cyntaf, Douglas Hyde, fyw dros dro yn yr hen breswylfa is-raglaw, tra bod cynlluniau i adeiladu preswylfa arlywyddol go iawn. Bwriadwyd dymchwel yr adeilad ond rhoddwyd y gorau i'r cynllun hyn yn ystod yr Ail Ryfel Byd a pharhaodd y tŷ hwn yn gartref swyddogol i bennaeth y wladwriaeth.[3]

Áras an Uachtaráin heddiw[golygu | golygu cod]

Barack Obama yn ymweld ag Arlywydd Iwerddon, Mary McAleese yn Áras an Uachtaráin, 23 Mai 2011

Mae pob Taoiseach (Prif Weinidog Iwerddon) yn ogystal â gweinidogion y llywodraeth yn derbyn sêl eu swydd gan yr Arlywydd yn Áras an Uachtaráin yn yr un modd â barnwyr, y twrnai cyffredinol, y rheolwr a’r archwilydd cyffredinol, ac uwch swyddogion a gomisiynir yn y Lluoedd Amddiffyn. Mae hefyd yn lleoliad ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn Arlywyddol a'r Cyngor Gwladol.

Mae Áras an Uachtaráin hefyd yn gartref i bencadlys Uned Marchogaeth y Garda.

Mae'r Swyddfa Gwaith Cyhoeddus yn dodrefnu'n gyfan gwbl chwarteri preifat Áras an Uachtaráin ar gyfer y teulu arlywyddol.[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. History of Áras an Uachtaráin, p8
  2. Ayto, John; Crofton, Ian (2005). Brewer's Britain and Ireland. Weidenfeld & Nicolson. t. 873. Unknown parameter |name-list-style= ignored (help) Consulted 5 April 2014.
  3. "7 things you probably didn't know about Áras an Uachtaráin". Newyddion RTÉ. 23 October 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2020. Cyrchwyd 23 October 2020.
  4. "Mammoth task of moving out done in military style". Irish Independent. 10 November 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 November 2011. Cyrchwyd 10 November 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Baner Republic of IrelandEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.