Neidio i'r cynnwys

Graham Norton

Oddi ar Wicipedia
Graham Norton
FfugenwGraham Norton Edit this on Wikidata
GanwydGraham William Walker Edit this on Wikidata
4 Ebrill 1963 Edit this on Wikidata
Clondalkin Edit this on Wikidata
Man preswylWapping, Dinas Efrog Newydd, Ahakista, Droichead na Bandan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Frenhinol Llefaru a Drama
  • Coleg Prifysgol Cork
  • Bandon Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, digrifwr, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, actor ffilm, colofnydd, bywgraffydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Graham Norton Show, So Graham Norton, V Graham Norton Edit this on Wikidata
PriodJono McLeod Edit this on Wikidata
PartnerTina Burner Edit this on Wikidata
llofnod

Digrifwr, actor a chyflwynydd rhaglenni teledu o Iwerddon yw Graham William Walker (ganed 4 Ebrill 1963), sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Graham Norton.

Daeth yn enwog fel cyflwynydd ar Channel 4 yn y Deyrnas Unedig, a hefyd o ganlyniad i'w rôl fel y Tad Noel Furlong yn y gyfres deledu adnabyddus Father Ted. Er iddo ymddangos mewn tair rhaglen yn unig, roedd ei bortread o Father Noel yn hynod boblogaidd gyda'r gwylwyr. Mae Norton yn agored fel dyn hoyw ac yn un o enwogion hoyw mwyaf poblogaidd Iwerddon. Roedd ganddo sioe siarad gyda'r nos ar Channel 4. Yn ddiweddarach symudodd i'r BBC i gyflwyno'r sioe siarad The Graham Norton Show.

Mae'n cyflwyno sioe ar BBC Radio 2 a fe hefyd yw sylwebydd Cystadleuaeth Cân Eurovision gan gymryd y swydd o Terry Wogan yn 2009.

Roedd Norton yn gyd-berchennog So Television, y cwmni sy'n cynhyrchu eu raglenni amrywiol. Yn 2012, gwerthodd Norton y cwmni i ITV am oddeutu £17 miliwn.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Graham Norton sells production company So TV to ITV". BBC News. Cyrchwyd 18 Hydref 2012.