Llyfr Kells
| Enghraifft o: | codecs, llawysgrif oliwiedig |
|---|---|
| Deunydd | felwm |
| Awdur | Y Celtiaid |
| Iaith | Lladin |
| Dyddiad cyhoeddi | 8 g |
| Dechrau/Sefydlu | c. 800s, 800 |
| Genre | llenyddiaeth grefyddol |
| Lleoliad | Coleg y Drindod, Dulyn |
| Enw brodorol | Leabhar Cheanannais |
| Gwefan | https://www.bookofkells.ie |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/014p_v |

Llawysgrif addurniedig yn dyddio o tua 800 OC yw Llyfr Kells (Gwyddeleg, Leabhar Cheanannais). Ystyrir y llawysgrif, sy'n awr yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yn un o uchafbwyntiau celfyddyd Geltaidd. Mae'n cynnwys y pedwar efengyl yn Lladin, gyda deunydd eglurhaol a rhagarweiniol.
Daw'r enw o Abaty Kells, yn Kells, Swydd Meath yn Iwerddon. Yn draddodiadol, cysylltir y llawysgrif a Sant Colum Cille, ond y farn ymysg ysgolheigion yw ei bod yn ddiweddarach, yn dyddio o gyfnod tua'r flwyddyn 800. Ceir nifer o ddamcaniaethau am darddle'r llawysgrif. Y farn fwyaf cyffredinol ar hyn o bryd yw ei fod wedi ei ddechrau ar ynys Iona yn yr Alban a bod gwaith wedi parhau arno wedi iddo gael ei symud i Kells. Mae'r llawysgrif yn anorffenedig.
Ceir cofnod ym Mrut Wlster am 1009 i'r llawysgrif gael ei dwyn, ond iddi gael ei hail-ddarganfod, heb y clawr aur, ychydig fisoedd wedyn.