Iona
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 177 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Mewnol Heledd |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 877 ha |
| Gerllaw | Sea of the Hebrides |
| Cyfesurynnau | 56.33°N 6.41°W |
![]() | |
Mae Iona (Gaeleg: Eilean Idhe) yn ynys sy'n un o Ynysoedd Mewnol Heledd oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban. Mae'n rhan o ardal cyngor Argyll a Bute. Saif yr ynys i'r de-orllewin o ynys fwy Muile (Mull), gyda chulfor bychan yn eu gwahanu. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd yn cysylltu'r ynys a Muile, ond nid oes hawl i ymwelwyr fynd â cheir ar yr ynys.
Mae'n gartref i Abaty Iona, un o dai crefydd pwysicaf yr Alban, a sefydlwyd gan y sant Colum Cille. Yr awdur a sant Adamnán oedd nawfed abad Iona.
Claddwyd John Smith, rhagflaenydd Tony Blair fel arweinydd Plaid Lafur, ar Ynys Iona.


