Muile
![]() | |
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Tobar Mhoire ![]() |
Poblogaeth |
2,800 ![]() |
Cylchfa amser |
UTC±00:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ynysoedd Mewnol Heledd ![]() |
Sir |
Argyll a Bute ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
886 km² ![]() |
Gerllaw |
Firth of Lorn ![]() |
Cyfesurynnau |
56.45°N 6°W ![]() |
![]() | |
Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngorllewin yr Alban yw Muile (Saesneg: Mull neu Isle of Mull). Yn weinyddol, mae'n rhan o Argyll a Bute. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,667. Y brif dref yw Tobar Mhoire (Saesneg:Tobermory).
Mae'r enw yn gytras â Moel yn Gymraeg. Gydag arwynebedd o 875 km2, Muile yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd, a'r bedwaredd o ran maint ymhlith holl ynysoedd yr Alban. Ceir nifer o gestyll ar yr ynys: Castell Aros, Castell Duart a Chastell Torosay. Yn y de-orllewin, mae culfor bychan yn ei gwahanu oddi wrth ynys lai Iona, tra mae Ulbha yn un o nifer o ynysoedd bychain ger yr arfordir gorllewinol.
Mae nifer o gysylltiadau fferi a'r tir mawr: y pwysicaf yw'r fferi rhwng Oban a Craignure. Copa uchaf yr ynys yw Ben More, 966 medr (3,170 troedfedd). Daw llawer o dwristiaid i'r ynys yn yr haf, llawer ohonynt i weld y bywyd gwyllt. Mae Muile yn un o'r mannau gorau ym Mhrydain i wylio'r dyfrgi, ac mae Eryr y Môr a'r Eryr Euraid yn nythu ar yr ynys.