Tobar Mhoire
Gwedd
| Math | tref, bwrdeistref fach |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,010 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Argyll a Bute |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 56.62°N 6.07°W |
| Cod SYG | S20000062, S19000073 |
| Cod post | PA75 |
![]() | |
Tobar Mhoire (Saesneg: Tobermory) yw prif dref ynys Muile (Mull) yn Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Saif ar yr arfordir yng ngogledd-ddwyrain yr ynys. Mae'r boblogaeth tua 700.
Sefydlwyd y dref fel porthladd i bysgotwyr yn 1788, yn dilyn cynllun wedi ei baratoi gan Thomas Telford. Ymwelodd y cyfansoddwr Felix Mendelssohn a'r dref yn 1829, ar ei ffordd i Staffa, a chynhelir gŵyl gerddorol flynyddol i gofio'r digwyddiad.
Mae'r tai lliwgar ger yr harbwr yn nodedig. Ffilmiwyd y gyfres deledu i blant Balamory yma. Cynhyrchir wisgi a chwrw yma, ac mae yma ganolfan gelfyddydau, An Tobar.

