Elizabeth Griffith
| Elizabeth Griffith | |
|---|---|
| Ganwyd | 11 Hydref 1727 Sir Forgannwg |
| Bu farw | 5 Ionawr 1793 Cill Dara |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Cymru |
| Galwedigaeth | actor llwyfan, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, dramodydd, actor |
Awdur, llenor ac actores oedd Elizabeth Griffith (née Griffith) (11 Hydref 1727 – 5 Ionawr 1793), a enwyd weithiau yn Elizabeth Griffiths.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganwyd Elizabeth Griffith ym Morgannwg, yn ferch i reolwr Theatr Dulyn, Thomas Griffith a'i wraig Jane Foxcroft Griffith ar 11 Hydref 1727.[2] Yn ogystal â rhoi iddi fynediad i theatr y byd, addysgwyd Elizabeth mewn Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg. Bu ei thad farw yn 1744, a syrthiodd y teulu i dlodi.
Ar 13 Hydref 1749 y perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf, pan chwaraeodd ran Juliet gyda Thomas Sheridan yn actio rhan Romeo. Arbenigodd mewn trasiediau e.e. Jane Lan yn The Tragedy of Jane Shore gan Nicholas Rowe a Cordelia yn King Lear.
Cyfarfu â'i darpar ŵr Richard Griffith, yn 1746. Ar 12 Mai 1751, priododd y ddau yn y dirgel a ganwyd dau o blant iddynt: Catherine a Richard.
Seiliwyd ei gwaith llenyddol cyntaf ar eu partneriaeth pum mlynedd, a chyhoeddwyd A Series of Genuine Letters Between Henry and Frances mewn chwe chyfrol rhwng 1757 a 1770. Mae'r llythyrau hyn yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at "llenyddol ac athronyddol bynciau o ddiddordeb i'r ddwy ochr, fel llythyrau Jonathan Swift ac Alexander Pope neu Swyddfeydd Cicero".[3] Daeth Letters between Henry and Frances yn llwyddiant ar unwaith.
Benthyciodd Richard swm mawr o arian i ddatblygu ffatri gwneud lliain ond aeth yr hwch drwy'r siop yn 1756. Yn ystod y cyfnod hwn, a tra roedd Richard yn osgoi dyledwyr y llys, incwm Griffith, drwy ysgrifennu oedd yn cynnal y teulu. Parhaodd ei gyrfa actio yn Covent Garden, yn Llundain, o 1753 i 1755,[4] er mai mân gymeriadau oedd yn eu hactio, fel arfer.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bell's British theatre: consisting of the most esteemed English plays, Volume 30
- ↑ Jones, G., (1959). GRIFFITH, ELIZABETH (1727 - 1793), awdur. Bywgraffiadur Cymru. Adalwyd 11 Hydref 2025, o
- ↑ Staves, Susan.
- ↑ Napier, Elizabeth R. "Elizabeth Griffith."
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Millicent Tŷ, Kildare, Iwerddon Archifwyd 3 Mawrth 2016 yn y Peiriant Wayback
- Elizabeth Eger, 'Griffith, Elizabeth (1727-1793)', Oxford Dictionary of National Biography (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004), adalwyd 11 Tachwedd 2006