Afon Life

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Life
River-liffey.jpg
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau 53.3447°N 6.1756°W, 53.15625°N 6.28806°W, 53.34358°N 6.19192°W Edit this on Wikidata
Aber Môr Iwerddon Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Dodder, Afon Poddle, Afon Camac, Rye Edit this on Wikidata
Hyd 125 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad 13.8 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata

Mae Afon Life neu Afon Liffe (Gwyddeleg: An Life, Saesneg: River Liffey) yn afon yn Iwerddon, sy'n llifo trwy ganol dinas Dulyn. Ymhlith yr afonydd llai sy'n ei bwydo mae'r afonydd Dodder, Poddle a'r Camac. Darpara'r afon rhan helaeth o gyflenwad dŵr y ddinas a nifer o gyfleoedd am weithgareddau adloniadol.

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae "Daearyddaeth" Ptolemy (2il ganrif AD) yn disgrifio afon, efallai'r Liffe, a alwyd ganddo yn Οβοκα (Oboka). Yn y pendraw, arweiniodd hyn at (ail)enwi'r afon Avoca sydd yn llifo fewn i dref Arklow i'r de o Ddulyn.[1]

Galwyd y Liffe yn wreiddiol yn An Ruirthech, "rhedwr cyflym (neu cryf)".[2] (cymharer â'r gair Cymraeg "rhedeg". Mae'r gair Liphe (neu Life) yn y Wyddeleg yn cyfeirio at y tir gwastad yr oedd yr afon yn llifo drwyddi, gan ddod, maes o law, i gyfeirio at yr afon ei hun.[3] Gelwyd hi hefyd ar un adeg yn Anna Liffey,[4] o bosib yn Seisnigiad o'r Wyddeleg Abhainn na Life, ("afon Liffe").[5] Mae James Joyce yn ymgorffori'r afon fel "Anna Livia Plurabelle" yn ei nofel Finnegans Wake.

Flag of Ireland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. "Ireland" (PDF). Romaneranames.uk. Roman Era Names. Cyrchwyd 1 January 2018.
  2. Archifwyd index yn y Peiriant Wayback.
  3. Byrne, F. J. 1973. Irish Kings and High-Kings. Dublin. p.150
  4. As indicated by the caption of an engraving published in 1831
  5. "Seanad Éireann – Vol 159, May, 1999 – Motion on National Archives – David Norris (senator and Trinity lecturer) referencing Georgian Society records". Oireachtas Debates (Hansard). 1999.