Wicklow
Gwedd
| Math | anheddiad dynol, tref |
|---|---|
| Gefeilldref/i | Montigny-le-Bretonneux |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Wicklow |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 69 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 52.9779°N 6.033°W |
![]() | |
Tref yn Iwerddon yw Wicklow (Gwyddeleg: Cill Mhantáin),[1] sy'n dref sirol Swydd Wicklow yn nhalaith Leinster, Gweriniaeth Iwerddon. Fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol yr ynys tua 32 milltir i'r de o Ddulyn.
Mae'r draffordd N11, sy'n mynd heibio i orllewin y dref, yn ei chysylltu gyda Dulyn i'r gogledd a gyda Wexford a Waterford i'r de. Ceir harbwr yno ar gyfer llongau masnachol.
I'r gorllewin ceir Mynyddoedd Wicklow (Sléibhte Chill Mhantáin), sydd i'w gweld o gopaon Eryri pan fo'r awyr yn glir. Mae'r mynyddoedd hyn yn un o brif atyniadau twristaidd Iwerddon ond dydy Wicklow ei hun ddim yn ganolfan dwristaidd.


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
